Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi Canllaw newydd i eirioli buddsoddi cynaliadwy mewn tegwch iechyd a llesiant

Mae canllaw ymarferol newydd wedi cael ei gyhoeddi ynghylch ‘Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi mewn Tegwch Iechyd a Llesiant’.

Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd gan Ganolfan Gydweithredu WHO (WHO CC) Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer rhaglen waith Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant ac mae’n amlinellu pedwar prif gyfnod o ran sut i gyfuno, trosi a chyfathrebu economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer.

Mae’r pedwar cyfnod rhyng-gysylltiedig yn tywys y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynnyrch wedi eu llywio gan dystiolaeth, sydd yn benodol i’r cyd-destun a’r gynulleidfa darged.

Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddi mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) buddsoddi prif ffrwd ar draws sectorau i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy a ffyniant i bawb.

Mae wedi cael ei ddatblygu yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg yn cynnwys adolygu tystiolaeth, cyfweliadau gydag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid aml-sector wnaeth sicrhau perthnasedd a throsglwyddadwyedd ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.

Dywedodd Dr Mariana Dyakova, Arweinydd Iechyd Rhyngwladol:

“Mae cyflwyno’r achos ac eirioli buddsoddi mewn tegwch iechyd a llesiant pobl yn bwysicach nag erioed.

"Mae tystiolaeth yn dangos bod strategaethau buddsoddi ac ymagweddau ariannol presennol yn anghynaliadwy, gan arwain at heriau cynyddol ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.

"Mae’r canllaw hwn yn hybu buddsoddi mewn polisïau a gweithredoedd teg, wedi eu llywio gan dystiolaeth, ar draws sectorau sydd o fudd i bobl, cymunedau, cymdeithas, yr economi a’r blaned.”


Mae’r canllaw ymarferol hwn yn datblygu Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO ac agenda 2010 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy.

Bydd rhanddeiliaid allweddol, eiriolwyr tegwch iechyd, gweision sifil a gweithwyr proffesiynol eraill ym maes iechyd a meysydd nad ydynt yn ymwneud ag iechyd, sydd â rôl yn ffurfio, dylanwadu neu lunio polisi ac ymarfer cenedlaethol ac is-genedlaethol, yn cael eu galluogi i ddatblygu gwneud polisïau a phenderfyniadau iach ar draws sectorau a gwledydd gwahanol gan ddefnyddio’r canllaw hwn.

Adnoddau:

Bydd y canllaw hwn ar gael fel fersiwn cryno yma:

Sut I gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi   Cynaliadwy mewn tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol (Crynodeb)

Mae fersiwn llawn ‘Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol’ wedi cael ei ddatblygu fel dogfen ryngweithiol ar-lein (Pdf), sydd yn hawdd llywio drwyddi a’i defnyddio.  

Mae’r fersiwn hwn ar gael yma: 

Sut I gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi   Cynaliadwy mewn tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Rhyngweithiol

Mwy o wybodaeth am Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant WHO CC:

Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant - Iechyd Cyhoeddus Cymru