Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi agenda a phapurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd a gynhelir ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022

Cyhoeddwyd: 14 Gorfennaf 2022

Mae Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.     

Cynhelir cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022  

Jan Williams, OBE fydd yn cadeirio’r cyfarfod, a chaiff ei ffrydio’n fyw drwy Microsoft Teams.  Mae'r agenda yn dangos yr hyn a fydd yn cael ei drafod a phryd.    

Mae'r papurau ar gael ymlaen llaw a gallwch eu gweld yma

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynychu'r cyfarfod, neu os ydych yn bwriadu mynychu a bod gennych unrhyw ofynion arbennig  y dylid eu hystyried, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Dilynir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Gyfarfod Bwrdd a gynhelir bob deufis.  Bydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno diweddariad ar gynnydd 2021/22 ac yn rhannu’r Adroddiad Blynyddol.   

Mae hefyd yn gyfle i gwrdd ag aelodau ein Bwrdd a chlywed am ein gwaith.  Gall y cyhoedd gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw i'r Bwrdd, drwy e-bostio PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk erbyn 5pm dydd Llun 25 Gorffennaf 2022.    

Rhagor o fanylion am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol