Cyhoeddwyd: 14 Gorfennaf 2022
Mae Ymddiriedolaeth GIG Cymru yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd y mae croeso i'r cyhoedd, gan gynnwys aelodau o'r staff, eu mynychu.
Cynhelir cyfarfod Bwrdd Cyhoeddus Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022
Jan Williams, OBE fydd yn cadeirio’r cyfarfod, a chaiff ei ffrydio’n fyw drwy Microsoft Teams. Mae'r agenda yn dangos yr hyn a fydd yn cael ei drafod a phryd.
Mae'r papurau ar gael ymlaen llaw a gallwch eu gweld yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â mynychu'r cyfarfod, neu os ydych yn bwriadu mynychu a bod gennych unrhyw ofynion arbennig y dylid eu hystyried, cysylltwch â Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dilynir Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Gyfarfod Bwrdd a gynhelir bob deufis. Bydd Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyflwyno diweddariad ar gynnydd 2021/22 ac yn rhannu’r Adroddiad Blynyddol.
Mae hefyd yn gyfle i gwrdd ag aelodau ein Bwrdd a chlywed am ein gwaith. Gall y cyhoedd gyflwyno cwestiynau ymlaen llaw i'r Bwrdd, drwy e-bostio PHW.CorporateGovernance@wales.nhs.uk erbyn 5pm dydd Llun 25 Gorffennaf 2022.
Rhagor o fanylion am y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol