Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Sgrinio Serfigol Cymru yn dangos bod 73.2% o fenywod cymwys wedi ymateb i'w gwahoddiad i gael sgrinio serfigol y llynedd - ac mae'r rhaglen yn annog pob menyw i fanteisio ar ei chyfle i gael ei sgrinio.
Rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019, cafodd 260,247 o fenywod 25-64 oed eu gwahodd i gael eu sgrinio ac aeth 173,547 o fenywod i gael eu sgrinio.
Meddai Louise Dunk, Pennaeth Sgrinio Serfigol Cymru: “Y llynedd manteisiodd mwyafrif y menywod cymwys ar eu cyfle i gael eu sgrinio.
“Fodd bynnag, rydym yn annog pob menyw gymwys i fynd i gael ei sgrinio pan fydd yn cael ei gwahoddiad gan Sgrinio Serfigol Cymru. Sgrinio yw'r ffordd orau o leihau effaith y canser hwn y gellir ei atal.”
O'r cyfnod o ddeuddeg mis a gwmpesir gan yr adroddiad, mae'r chwe mis olaf yn cynrychioli'r cyfnod ers i Gymru fod y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno profion feirws papiloma dynol (HPV) yn llawn fel y prif brawf sgrinio serfigol ym mis Hydref 2018.
Mae'r prawf newydd yn chwilio am bresenoldeb mathau risg uchel o HPV sy'n achosi 99.8% o'r holl ganserau ceg y groth. Dangoswyd ei fod yn
ddull mwy dibynadwy a sensitif o helpu i atal menywod rhag datblygu canser ceg y groth.
Mae Louise Dunk yn parhau “Rydym yn falch o fod wedi arwain y ffordd wrth gyflwyno'r prawf sgrinio serfigol newydd a gwell hwn i fenywod Cymru.
“Mae profion HPV yn ffordd fwy cywir o nodi'r rhai sy'n wynebu risg uwch o ganser ceg y groth a bydd yn achub bywydau.
Canfyddir tua 160 o achosion o ganser ceg y groth bob blwyddyn yng Nghymru.
Er nad yw sgrinio serfigol yn brawf ar gyfer canser, mae'n nodi canserau cynnar ar gam pan fydd yn haws eu trin.
O'r 167 o achosion o ganser ceg y groth ar gronfa ddata Sgrinio Serfigol Cymru ym mis Awst 2019, cafodd 60 (36%) eu diagnosio o ganlyniad i atgyfeirio yn dilyn canlyniad sgrinio serfigol annormal.
Mae sgrinio serfigol, y cyfeirir ato weithiau fel prawf ceg y groth, yn brawf am ddim drwy'r GIG a gynhelir mewn meddygfeydd teulu neu mewn rhai clinigau iechyd rhywiol.
Gwahoddir menywod sy'n 25 oed ac yn hŷn i gael eu sgrinio bob tair blynedd. Gwahoddir menywod 50 i 64 oed bob pum mlynedd.
Mae Adroddiad Blynyddol Sgrinio Serfigol Cymru 2018/19 ar gael yn llawn ar-lein yma: