Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddi adolygiad annibynnol o'r ymateb i'r brigiad o achosion o TB yn Llwynhendy

Cyhoeddwyd: 30 Medi 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIP) wedi cyhoeddi eu bod wedi comisiynu adolygiad allanol ar y cyd o'r ymateb i'r brigiad o achosion o Dwbercwlosis (TB) yn ardal Llwynhendy.

Mae'r adolygiad yn cael ei gomisiynu oherwydd hyd y brigiad o achosion a'r nifer sylweddol o bobl yr effeithiwyd arnynt, i ddysgu gwersi o'r brigiad o achosion yn Llwynhendy, ac fel rhan o ymrwymiad y ddau sefydliad i fod yn agored ac yn onest gyda'r cyhoedd a sefydliadau eraill.

Mae'r adolygiad yn annibynnol, a chaiff ei gadeirio gan yr Athro Mike Morgan, a arferai fod yn Gyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol GIG Lloegr ar gyfer Clefyd Anadlol.  Bydd y panel yn cynnwys arbenigwyr ym maes rheoli brigiad o achosion iechyd cyhoeddus, meddyginiaeth anadlol, clefyd twbercwlosis, a microbioleg, yn ogystal â lleygwr.

Bydd yr adolygiad yn trafod a oedd yr ymateb i'r brigiad o achosion ers 2010 yn gyffredinol, ac ar bob cam, wedi'i gynnal yn unol â'r canllawiau arfer gorau a oedd ar waith ar adeg pob cam o'r brigiad o achosion. 

Bydd hefyd yn adolygu unrhyw achosion o bobl a nodwyd yn ystod y brigiad o achosion sydd wedi marw yn anffodus, lle nododd y dystysgrif marwolaeth fod TB wedi cyfrannu at y farwolaeth neu wedi'i hachosi.  Yn ogystal, bydd unigolion sydd wedi datblygu TB gweithredol hefyd yn cael eu hadolygu.

Meddai Dr Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio/Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn deall bod y brigiad o achosion o TB wedi peri cryn bryder i gymuned Llwynhendy ac i bawb sy'n gysylltiedig, yn enwedig i deulu'r claf a fu farw yn anffodus.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda wedi comisiynu'r adolygiad hwn ar y cyd er mwyn sicrhau bod yr ymateb i'r brigiad o achosion mor gadarn â phosibl, ac i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu ar gyfer unrhyw achosion o TB yn y dyfodol.”

Meddai Dr Philip Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Chyfarwyddwr Strategaeth Glinigol, BIP Hywel Dda: “Bydd yr adolygiad hwn yn edrych yn ôl yn fanwl ar y penderfyniadau a wnaed gan y ddau sefydliad yn ystod y brigiad o achosion o TB yn Llwynhendy, a bydd yn cymryd golwg annibynnol ar sut y cafodd yr ymateb ei reoli.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda yn ddiolchgar i'r Athro Morgan a'i banel am dderbyn y gwahoddiad i adolygu'r brigiad o achosion.”

Dylai'r adolygiad nodi'r gwersi a ddysgwyd a gwneud argymhellion i Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Iechyd Hywel Dda ar gyfer gwella. Efallai y bydd argymhellion ar gyfer rhanddeiliaid allweddol eraill hefyd.

Disgwylir adroddiad ar ganfyddiadau'r adolygiad tua mis Mai 2022, gydag adroddiad interim yn cael ei ryddhau ym mis Chwefror 2022.

Fel rhan o Gamau 1 a 2 o'r ymarfer sgrinio a gynhaliwyd yn 2019, cafodd dros 2000 o bobl eu sgrinio. Nododd hyn 31 o achosion gweithredol, a dros 250 o achosion o TB cudd, a rhoddwyd triniaeth fel y bo'n briodol.

Yn anffodus iawn, roedd un farwolaeth yn gysylltiedig â'r brigiad hwn o achosion.  Mae meddyliau'r rhai yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda gyda theulu'r ymadawedig.

Mae'r adolygiad yn cael ei gynnal yn annibynnol ar reolaeth weithredol barhaus y brigiad o achosion, ac ni fydd unrhyw effaith ar unrhyw driniaeth na rheolaeth glinigol y mae cleifion yn eu derbyn.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru a BIP Hywel Dda yn cysylltu'n uniongyrchol â phobl sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r brigiad o achosion a bydd cyfathrebu uniongyrchol pellach yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf mewn perthynas â'r adolygiad. 

 

Mwy o wybodaeth