Cyhoeddwyd: 10 Rhagfyr 2024
Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys cynnwys sensitif sy’n cyfeirio at fanylion marwolaethau oherwydd amheuaeth o hunanladdiad.
Os ydych yn cael trafferth ymdopi, gellir dod o hyd i ffynonellau cymorth yng Nghymru ar y dudalen hon. Gellir cysylltu â’r Samariaid 24 awr y dydd, am ddim, ar 116 123, drwy e-bost ar jo@samaritans.org neu ewch i www.samaritans.org i ddod o hyd i’ch cangen agosaf. Gellir cyrraedd Gwasanaeth Cymraeg Samariaid Cymru drwy ffonio 0808 164 0123 rhwng 7-11pm.
Gellir dod o hyd i gymorth arall ar dudalen cymorth i feddyliau hunanladdol y GIG . Mae cymorth ar gael bob awr o'r dydd, bob dydd o'r flwyddyn, gan ddarparu lle diogel i chi, pwy bynnag ydych chi a sut bynnag rydych chi'n teimlo.
Os oes marwolaeth oherwydd hunanladdiad tybiedig wedi effeithio arnoch, mae cymorth ar gael drwy ffonio Gwasanaeth Cynghori a Chyswllt Cenedlaethol Cymru , 08000 487742, neu e-bost: support@nals.cymru . Gellir cael mynediad at Cymorth wrth Law Cymru ar-lein i gael rhagor o wybodaeth ar ôl marwolaeth sydyn.
Os ydych yn newyddiadurwr sy'n ymdrin â mater sy'n gysylltiedig â hunanladdiad, a fyddech cystal ag ystyried dilyn canllawiau cyfryngau'r Samariaid ar adrodd am hunanladdiad oherwydd canlyniadau niweidiol posibl adrodd anghyfrifol. Yn arbennig, mae’r canllawiau’n rhoi cyngor ar derminoleg ac yn cynnwys dolenni i ffynonellau cymorth i unrhyw un y mae’r themâu yn yr adroddiad hwn yn effeithio arnynt.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi ei ail adroddiad o’r Arolwg Amser Real Cymru ar gyfer Gwyliadwriaeth Amheuaeth o Hunanladdiad (RTSSS) , sy’n dangos bod cyfraddau hunanladdiad a amheuir wedi aros yn weddol sefydlog ers yr adroddiad cyntaf a gyhoeddwyd ddechrau’r flwyddyn hon.
Rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024, roedd 350 o farwolaethau o amheuaeth o hunanladdiad ymhlith trigolion Cymru a fu farw yng Nghymru neu’r tu allan iddi, sy’n rhoi cyfradd o 12.4 fesul 100,000 o bobl, o gymharu â 12.7 fesul 100,000 yn adroddiad 2022/23.
Mae’r data yn yr adroddiad yn seiliedig ar adroddiadau i Iechyd Cyhoeddus Cymru am farwolaethau oherwydd amheuaeth o hunanladdiad, cyn i gwest y Crwner gael ei gynnal. Rhagwelir y bydd nifer yr hunanladdiadau a gadarnhawyd fel y penderfynir gan y Crwner yn is na nifer yr achosion o hunanladdiad a amheuir, gan y gallai ymchwiliad y Crwner ddod o hyd i achos marwolaeth gwahanol.
Roedd gwrywod yn cyfrif am 76 y cant o farwolaethau oherwydd amheuaeth o hunanladdiad, ac roedd y gyfradd oed-benodol uchaf ymhlith dynion 35-44 oed. Dywedwyd bod gan 63 y cant o bobl gyflwr iechyd meddwl, gyda 29 y cant yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl. roedd gan 53 y cant hanes o hunan-niwed yn y gorffennol ac roedd 65 y cant o'r marwolaethau ymhlith pobl a oedd yn hysbys i'r heddlu yn flaenorol.
Roedd cyfraddau marwolaethau oherwydd amheuaeth o hunanladdiad ar eu huchaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, sef 15.8 fesul 100,000 o’r boblogaeth, a oedd bron ddwywaith yn fwy na’r ardaloedd lleiaf difreintiedig, sef 8.6 fesul 100,000. Yn ogystal, roedd y gyfradd ymhlith pobl yr adroddwyd eu bod yn ddi-waith yn 126.7 fesul 100,000, o leiaf 12 gwaith yn uwch nag unrhyw grŵp statws cyflogaeth arall.
Gogledd Cymru oedd â'r gyfradd ranbarthol uchaf o amheuaeth o hunanladdiad, sef 14.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ond nid oedd hyn yn ystadegol arwyddocaol uwch na chyfradd Cymru gyfan, sef 12.4 fesul 100,000.
Dywedodd Dr Rosalind Reilly, Ymgynghorydd Meddygaeth Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae pob marwolaeth trwy amheuaeth o hunanladdiad yn drasiedi unigol sydd ag effeithiau pellgyrhaeddol i deuluoedd a chymunedau ehangach.
“Nod yr RTSSS yw darparu data amserol er mwyn sefydlu mesurau atal hunanladdiad yn gyflym lle bo angen. Mae’r adroddiad hwn yn rhoi data defnyddiol inni a fydd yn helpu rhanddeiliaid ledled Cymru i weithio’n effeithiol i dargedu camau gweithredu lle bydd yn cael yr effaith fwyaf.”
Dywedodd Claire Cotter, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Ngweithrediaeth y GIG:
“Mae hunanladdiad yn ddinistriol i unigolion, teuluoedd a chymunedau, ac yn gadael trawma parhaus os nad yw pobl yn cael eu cefnogi.
“Mae gwaith atal hunanladdiad yn gymhleth ac yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau gydweithio i fod yn fwyaf effeithiol wrth atal ac ymateb i farwolaethau hunanladdiad a amheuir. Mae data amserol yn rhan hanfodol o ddeall yr ystod o ffactorau sy'n gysylltiedig â hunanladdiad.
“Mae RTSSS Cymru yn ein helpu i dargedu dulliau ataliol ledled Cymru, ac rydym yn dechrau gweld nawr sut y gall y data hwn gyfrannu at ein gwaith atal hunanladdiad ar draws sefydliadau lluosog. Byddwn yn parhau i fireinio ein hymagwedd yn seiliedig ar dystiolaeth o’r RTSSS a data arall yn y maes hwn.”
Mae RTSSS wedi’i ddatblygu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru, y rhaglen atal hunanladdiad a hunan-niwed genedlaethol sydd wedi’i lleoli yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, y pedwar Heddlu yng Nghymru a Phrifysgol Abertawe. Mae'n adeiladu ar systemau a sefydlwyd eisoes gan Gyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC) a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ledled y DU. Nod RTSSS yw casglu a dadansoddi data mewn modd amserol, er mwyn darparu gwybodaeth gyfredol i randdeiliaid ar batrymau cenedlaethol a rhanbarthol er mwyn llywio gweithgarwch atal hunanladdiad ledled Cymru.