Neidio i'r prif gynnwy

Cyflogwyr yng Nghymru yn gosod safon aur ar gyfer iechyd a llesiant yn y gweithle

Cyhoeddwyd: 7 Mehefin 2022

Mae adroddiad newydd gan dîm Cymru Iach ar Waith yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffyrdd niferus y mae cyflogwyr yng Nghymru wedi camu i'r adwy ac yn arwain y ffordd ar flaenoriaethu iechyd a llesiant meddwl a chorfforol eu gweithwyr, yn ystod ac yn dilyn pandemig y Coronafeirws. 

Mae ‘Sut y gwnaeth cyflogwyr yng Nghymru ymateb i bandemig Covid-19: Crynodeb o'r dulliau o ymdrin â llesiant staff gan gwmnïau yng Nghymru’ yn canolbwyntio ar rai o'r gweithgareddau a'r dulliau arloesol a gymerwyd gan sefydliadau a chyflogwyr. Mae’r themâu allweddol yn cynnwys:  

  • Annog a hybu iechyd meddwl a llesiant 
  • Hyrwyddo mentrau llesiant corfforol 
  • Cyfathrebu a hyfforddiant staff 
  • Ymgysylltu â staff a'u cydnabod a'u cefnogi 
  • Cyfathrebu digidol 
  • Diogelu'r gymuned 
  • Gwneud newidiadau cynaliadwy 
  • Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant 

Meddai Mary-Ann McKibben, Arweinydd Ymgynghorol Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Cymru Iach ar Waith: 

“Rydym yn gwybod pan fo cyflogeion yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu, bod yr unigolion nid yn unig yn ffynnu, ond hefyd y sefydliadau a'r cymunedau y maent wedi'u lleoli ynddynt.  

“Rhoddodd pandemig y Coronafeirws straen ychwanegol enfawr ar bobl a busnesau fel ei gilydd ac rydym am ddathlu'r arloesedd, y cydnerthedd a'r ymrwymiad a ddangoswyd gan y busnesau hyn yng Nghymru wrth wynebu'r her hon, a thu hwnt. 

“Bydd Cymru Iach ar Waith yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi cyflogwyr i hyrwyddo, diogelu a gwella llesiant eu gweithwyr mewn byd ar ôl y pandemig. Mae hyn yn cynnwys teilwra dulliau i sectorau a maint sefydliadau, a darparu'r sgiliau, y wybodaeth a'r adnoddau i gyflogwyr er mwyn iddynt ddeall anghenion llesiant eu gweithlu a'u cynorthwyo yn y ffordd orau.” 

Aeth Coleg Penybont y filltir ychwanegol i leihau ei ôl troed carbon er budd ei gyflogeion, myfyrwyr a'r gymuned, er gwaethaf y pwysau ychwanegol a ddaeth yn sgil y pandemig.    

Meddai Chris Long, Pennaeth Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd, Coleg Penybont: 

"Ynghyd â llythrennedd hinsawdd a hyfforddiant ac adnoddau cynaliadwyedd i'r holl staff, yn ogystal â'n rhaglen arweinyddiaeth bresennol i reolwyr sy'n canolbwyntio ar unigolion, bydd hyn yn gweithredu fel grym ar gyfer mynd i'r afael â newid hinsawdd a chynaliadwyedd ar draws y sefydliad.” 

Gellir dod o hyd i'r adroddiad llawn yma.