Cyhoeddwyd: 21 Gorffennaf 2022
Dim ond wythnos i fynd tan ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol (CCB) ddydd Iau 28 Gorffennaf 2022.
Mae'n gyfle i gwrdd ag aelodau ein Bwrdd a chlywed am ein gwaith. Bydd sesiwn holi ac ateb yn cael ei chynnal hefyd.
Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein, cliciwch ar y ddolen fyw isod i fynychu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
Mae yna lawer o ffyrdd y gallwch chi gymryd rhan:
Dylid anfon cwestiynau cyn 5pm ddydd Llun 25 Gorffennaf 2022.
Drwy ddilyn y digwyddiad yn fyw ar Facebook gan ddefnyddio'r hashnod #PHWAGM. Os na allwch gael mynediad at y ffrwd fyw yn ystod y digwyddiad oherwydd ymrwymiadau eraill, gallwch ei wylio wedyn ar ein tudalen Facebook.