Neidio i'r prif gynnwy

Cofrestr Clefydau Prin Oedolion yn dechrau yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 28 Chwefror 2021

28 Chwefror yw diwrnod clefydau prin a hoffem nodi hyn drwy gyhoeddi bod Cofrestr Clefydau Prin Oedolion yng Nghymru yn cael ei sefydlu fel rhan o ymateb COVID Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Gofynnwyd i lawer o bobl warchod wrth i'r DU fynd i mewn i'r cyfyngiadau symud cyntaf yn 2020 o ganlyniad i'w clefyd prin. Amlygodd hyn y fantais o gael cofrestrfa o bobl â chlefydau prin yng Nghymru. Ym mis Mehefin 2020, dechreuodd y gofrestr ganolbwyntio ar y cyflyrau a'r triniaethau hynny sy'n atal y system imiwnedd. Hyd yma mae dros 2,500 o unigolion wedi'u cofrestru gyda thros 40 o glefydau prin. Mae’r rhain yn cynnwys cyflyrau fel syndrom Behcet, Ffeibrosis Systig a chlefyd Still.

Dyma nodau presennol y Gofrestrfa;

  • Monitro effaith pandemig Covid-19 ar unigolion/poblogaethau sydd â chlefydau prin yng Nghymru, yn enwedig y grwpiau hynny a gynghorwyd i warchod.
  • Casglu tystiolaeth epidemiolegol i gynorthwyo'r broses o wneud penderfyniadau a chyfathrebu ar gyfer y grwpiau hyn wrth symud ymlaen gyda golwg ar ddiogelu iechyd, er enghraifft, penderfyniadau polisi.
  • Nodi effaith (os o gwbl) llai o fynediad at wasanaethau meddygol ar gleifion â chlefydau prin a llywio blaenoriaethau gwasanaethau hanfodol wrth symud ymlaen.

Meddai Dr Graham Shortland OBE: "A minnau'n Gadeirydd Grŵp Gweithredu Clefydau Prin Cymru rwyf wedi gweld y gwaith caled o ran gwireddu'r Gofrestr Oedolion.

“Rwy’n gwybod am y canlyniadau cadarnhaol blaenorol i blant oherwydd gwaith CARIS a chredaf fod hwn yn gam mawr ymlaen i gleifion sy'n oedolion â Chlefydau Prin”.

Mae Sian Bolton, Cyfarwyddwr Trawsnewid, Cyfarwyddiaeth Wybodaeth 

yn dweud: “Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn falch o allu ehangu ar waith rhagorol CARIS i gynnwys oedolion â chlefydau prin. Mae hyn yn rhan hanfodol o'n hymateb i COVID-19 a gobeithio y bydd modd adeiladu ar y gwaith hwn yn y misoedd i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth am CARIS (System Cofrestr a Gwybodaeth Anomaleddau Cynhenid) cliciwch yma.