Neidio i'r prif gynnwy

Clwstwr o achosion o TB yn CEM y Parc

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio ar ôl i bedwar achos o Dwbercwlosis (TB) gael eu nodi mewn dynion sy'n byw yng ngharchar CEM y Parc ym Mhen-y-bont ar Ogwr dros y naw mis diwethaf.

Gan weithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, CEM y Parc a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, cynhelir sgrinio ym mis Ionawr i'r rhai sydd mewn cysylltiad agosaf â'r sydd wedi cael diagnosis.

Bydd yr ymchwiliadau'n parhau a rhoddir cyngor neu sgrinio ychwanegol os bydd ei angen.

Mae'r dynion sydd wedi cael diagnosis o TB wedi ymateb yn dda i'r driniaeth. Nid oes achos wedi'i ddatgan ar hyn o bryd, ond mae'r sefyllfa'n cael ei hadolygu'n weithredol.

Meddai Siôn Lingard, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae TB yn anodd ei ddal, ac mae angen cysylltiad agos a hirfaith ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.

“Serch hynny, oherwydd bod rhai o staff y carchar mewn cysylltiad agos â charcharorion sydd â TB, byddwn yn sgrinio staff yn y carchar ar ddechrau'r flwyddyn newydd.  Mae'n ddrwg gennym am unrhyw bryder y mae hyn yn ei achosi, ond mae'n amlwg yn bwysig bod unrhyw achosion o TB yn cael eu nodi a'u trin.

“Gellir trin yr haint â gwrthfiotigau ac mae'n bosibl ei wella'n llwyr yn y rhan fwyaf o achosion.”

Mae TB yn haint sy'n effeithio ar yr ysgyfaint fel arfer, ond gellir effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Gall unrhyw un ddal TB drwy anadlu'r bacteria mewn defnynnau bach iawn sy'n cael eu tisian neu eu pesychu gan rywun â TB yn ei ysgyfaint. Ond bydd angen cysylltiad estynedig ac agos er mwyn i hyn ddigwydd.

Ymhlith oedolion, peswch parhaus yw symptom mwyaf cyffredin TB.  Gall symptomau eraill gynnwys colli pwysau, tymheredd uchel, a chwysu, yn enwedig yn ystod y nos.

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd siarad â'i feddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44203