Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi eich Iechyd Meddwl a'ch Llesiant yn ystod y pandemig

Cyhoeddwyd: 18 Rhagfyr

Mae ymgyrch newydd wedi cael ei lansio i gyfeirio pobl i ffynonellau cymorth er mwyn helpu eu hiechyd meddwl a'u llesiant yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Mae Iechyd Meddwl Cymru yn dudalen bwrpasol sy'n tynnu sylw at y cymorth dros y ffôn sydd ar gael, ynghyd â chyrsiau wedi'u cymeradwyo gan y GIG a all helpu unigolion i ymdopi gartref.

Cyflwynir yr ymgyrch yn bennaf drwy gyfryngau cymdeithasol a hysbysebu digidol, gan dargedu'r rhai sydd fwyaf tebygol o fod angen cymorth iechyd meddwl a llesiant. 

Meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae hon wedi bod yn flwyddyn heriol i'r rhan fwyaf ohonom. 

“Mae'r cyfyngiadau sydd wedi'u rhoi ar waith i gyfyngu ar ledaeniad Coronafeirws wedi cael effaith ar bob agwedd ar ein bywydau.  O ganlyniad gall rhai pobl fod yn profi straen neu bryder am swyddi neu arian yn ogystal â gweld eisiau'r amser y maent yn ei dreulio gyda ffrindiau a theulu a'r pethau eraill rydym fel arfer yn eu gwneud sy'n ein helpu i ymdopi. “Mae'n teimlo'n isel eich ysbryd am y pandemig yn normal, ond i rai pobl mae'r meddyliau a'r teimladau negyddol yn fwy anodd eu gwaredu. 

“Mae cymorth ar gael drwy gyrsiau am ddim, wedi'u cymeradwyo gan y GIG, ar-lein sy'n helpu pobl i ymdopi â'u teimladau, wrth ganiatáu iddynt gwblhau'r cwrs ar eu cyflymder eu hunain yn eu cartref eu hunain. Mae siarad am sut rydych yn teimlo yn bwysig iawn hefyd a dyna pam rydym wedi bod yn cyfeirio i amrywiaeth o linellau cymorth a all gynnig cyngor neu sy'n barod i wrando.” 

Mae'r ymgyrch hefyd yn helpu pobl i nodi'r arwyddion y gall eu hiechyd meddwl a'u llesiant fod yn eu dioddef. Ymhlith yr arwyddion mae:

•    Rydych yn flin ac yn hawdd eich cynhyrfu
•    Rydych ei chael yn anodd cysgu
•    Gallech fod yn ddagreuol heb reswm
•    Efallai eich bod yn teimlo'n bryderus neu'n poeni drwy'r amser
•    Efallai nad ydych yn mwynhau'r pethau a wnewch fel arfer

Os ydych yn poeni na fyddwch yn gallu cadw eich hun yn ddiogel neu'n poeni y gall fod angen cymorth brys ar rywun arall dylech gysylltu â'ch meddyg teulu neu ffonio 999 i gael cymorth arbenigol.

Gall cadw'n gorfforol iach ac aros mewn cysylltiad ag eraill hefyd gael effaith gadarnhaol ar eich llesiant meddyliol. Dewch o hyd i syniadau ar ein tudalennau Sut wyt ti

Mae helpu eraill yn ffordd wych o helpu eich hun i deimlo'n well.

Rhannwch y stori hon neu'r we-dudalen https://icc.gig.cymru/pynciau/cymorth-iechyd-meddwl/ heddiw, efallai mai dyma'r cymorth sydd ei angen ar rywun.