Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau'r arolwg ymgysylltu â'r cyhoedd diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae canlyniadau’r arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd diweddaraf, ‘Sut Rydym yn Gwneud yng Nghymru’, wedi cael eu rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dyma’r canfyddiadau allweddol:

•    69% o bobl yn meddwl y bydd gennym frechlyn ymhen chwe mis sy’n amddiffyn y rhan fwyaf o bobl rhag coronafeirws; cynnydd o 38% ers yr arolwg diwethaf (Tachwedd 2 – 8).
•    70% o bobl yn dweud y byddent am gael eu brechu rhag coronafeirws pebai brechlyn ar gael. O’r rhai sydd gyda plant, dywedodd 60% y byddent am i’w plan gael eu brechu. 
•    83% o bobl o’r farn y dylid blaenoriaethu staff y GIG I dderbyn brechiad coronafeirws yn gyntaf.* Y grwpiau nesaf a ddewiswyd amlaf ar gyfer blaenorisaethu oedd oedolion gyda clyfyrau iechyd (40%) ac oedolion 70 oed a throsodd (31%).
•    66% o bobl yn dweud fod ansawdd eu bywyd wedi gwaethygu yn ystod y chwe mis diwethaf gan gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill oblegid coronafeirws; a 48% yn dweud ei fod wedi gwaethygu drwy boeni am ddal coronafeirws. 
•    75% o bobl yn dweud eu fod yn poeni mwy am ddal coronafeirws nag am gael cyfyngiadau pellach wedi cael eu gosod mewn lle.
•    60% o bobl yn pryderu am effaith cyfyngiadau coronafeirws ar eu hiechyd meddwl a’u lles dros y misoedd nesaf (37% ychydig yn bryderus, 23% yn bryderus iawn.)
Mae adroddiad diweddaraf arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 16 ac 22 Tachwedd, pan arolygwyd 601 o bobl. 

Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau gyda channoedd o bobl 18 oed neu hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru. 

Mae'r arolwg yn rhan o lu o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy’r Coronafeirws. 

Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yn:

Sut rydym yn gwneud yng Nghymru Wythnos 33 16 i 22 o Dachwedd 2020