Mae canlyniadau’r arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd diweddaraf, ‘Sut Rydym yn Gwneud yng Nghymru’, wedi cael eu rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma’r canfyddiadau allweddol:
• 69% o bobl yn meddwl y bydd gennym frechlyn ymhen chwe mis sy’n amddiffyn y rhan fwyaf o bobl rhag coronafeirws; cynnydd o 38% ers yr arolwg diwethaf (Tachwedd 2 – 8).
• 70% o bobl yn dweud y byddent am gael eu brechu rhag coronafeirws pebai brechlyn ar gael. O’r rhai sydd gyda plant, dywedodd 60% y byddent am i’w plan gael eu brechu.
• 83% o bobl o’r farn y dylid blaenoriaethu staff y GIG I dderbyn brechiad coronafeirws yn gyntaf.* Y grwpiau nesaf a ddewiswyd amlaf ar gyfer blaenorisaethu oedd oedolion gyda clyfyrau iechyd (40%) ac oedolion 70 oed a throsodd (31%).
• 66% o bobl yn dweud fod ansawdd eu bywyd wedi gwaethygu yn ystod y chwe mis diwethaf gan gyfyngiadau symud a chyfyngiadau eraill oblegid coronafeirws; a 48% yn dweud ei fod wedi gwaethygu drwy boeni am ddal coronafeirws.
• 75% o bobl yn dweud eu fod yn poeni mwy am ddal coronafeirws nag am gael cyfyngiadau pellach wedi cael eu gosod mewn lle.
• 60% o bobl yn pryderu am effaith cyfyngiadau coronafeirws ar eu hiechyd meddwl a’u lles dros y misoedd nesaf (37% ychydig yn bryderus, 23% yn bryderus iawn.)
Mae adroddiad diweddaraf arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 16 ac 22 Tachwedd, pan arolygwyd 601 o bobl.
Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau gyda channoedd o bobl 18 oed neu hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o lu o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy’r Coronafeirws.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yn:
Sut rydym yn gwneud yng Nghymru Wythnos 33 16 i 22 o Dachwedd 2020