Mae canlyniadau’r arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd diweddaraf, ‘Sut Rydym yn Gwneud yng Nghymru’, wedi cael eu rhyddhau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dyma’r canfyddiadau allweddol:
- Dywedodd 62% o bobl eu bod yn gadarn o blaid cyfyngiadau symud cenedlaethol yng Nghymru i reoli lledaeniad y coronafeirws (25% yn cefnogi rhywfaint, nid oedd 13% yn gefnogol)
- Dywedodd 21% o bobl eu bod yn poeni'n fawr y gallent gael y coronafeirws (33% yn poeni'n gymedrol, 29% yn poeni ychydig, 17% ddim yn poeni o gwbl)
- Dywedodd 22% o bobl eu bod wedi bod mewn cysylltiad agos â mwy na 10 o bobl o'r tu allan i'w haelwyd (neu aelwyd estynedig a ganiateir) yn ystod y 7 diwrnod diwethaf
- Mae 70% o bobl yn gwisgo gorchudd wyneb 'y rhan fwyaf o'r amser' pan fyddant yn mynd allan (24% rywfaint o'r amser, 6% byth/ddim yn berthnasol). Mae 67% yn defnyddio gorchudd wyneb ailddefnyddiadwy ac mae 51% yn defnyddio masgiau wyneb tafladwy*. (*Gallai cyfranogwyr adrodd am ddefnyddio'r ddau fath o orchudd wyneb)
- Mae 51% o bobl sy'n defnyddio gorchudd ailddefnyddiadwy yn ei olchi ar ôl pob diwrnod o ddefnydd. 32% yn ei olchi ar ôl 2 i 4 diwrnod o ddefnydd; 10% 5 i 10 diwrnod o ddefnydd; 2% mwy na 10 diwrnod ac nid yw 5% erioed wedi'i olchi.
- Mae 67% o bobl sy'n defnyddio masgiau wyneb tafladwy yn cael gwared arnynt ar ôl pob defnydd, ond nid yw 33% yn gwneud hynny
- Mae 40% o bobl yn pryderu 'llawer' a 33% 'ychydig' am eu gallu i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau yn ystod y misoedd nesaf, wrth i'r gaeaf ddod
- Nododd 50% o bobl fod lefel eu hapusrwydd presennol yn uchel (sgoriau o 7 i 0 ar raddfa o 0 i 10). Dyma'r gyfran isaf ers i'r arolwg ddechrau
- Dywedodd 19% o bobl eu bod wedi teimlo'n 'aml' neu 'bob amser' yn ynysig yn ystod y 7 diwrnod diwethaf, a dywedodd 13% eu bod wedi teimlo'n 'aml' neu 'bob amser' yn unig
Mae adroddiad diweddaraf arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd y Coronafeirws Newydd (COVID-19) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cwmpasu'r cyfnod rhwng 2 ac 8 Tachwedd, pan arolygwyd 602 o bobl.
Bob pythefnos, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal cyfweliadau gyda channoedd o bobl 18 oed neu hŷn ledled Cymru, i ddeall sut mae’r Coronafeirws Newydd (COVID-19) a'r mesurau sy'n cael eu defnyddio i atal ei ledaeniad yn effeithio ar lesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pobl yng Nghymru.
Mae'r arolwg yn rhan o lu o fesurau a weithredir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gefnogi iechyd a llesiant y cyhoedd drwy’r Coronafeirws.
Mae'r adroddiad llawn ar gael i'w lawrlwytho yma.