Neidio i'r prif gynnwy

Canlyniadau cyntaf Rhaglen Mesur Plant Cymru gyfan ers y pandemig

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhyddhau ei ystadegau Rhaglen Mesur Plant swyddogol diweddaraf sy’n cwmpasu’r cyfnod 2022-23.

Dyma’r tro cyntaf ers y pandemig i’r data gwmpasu pob ardal Byrddau Iechyd, ac felly mae’n cynnwys Data lefel Cymru gyfan – nad yw wedi bod ar gael ers rhyddhau canlyniadau 2018-19.

Mesurwyd taldra a phwysau bron i 30,000 o blant 4 a 5 oed gan dimau nyrsio ysgolion fel rhan o'r Rhaglen Mesur Plant. Mae’r Rhaglen yn adrodd ar y data hyn yn genedlaethol, fesul bwrdd iechyd ac yn ôl awdurdod lleol er mwyn monitro anghenion iechyd y boblogaeth.

Dywedodd Dr Llion Davies, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yn ystod cyfnod y pandemig, rhoddwyd y gorau i gasglu’r data hyn mewn sawl maes oherwydd yr angen i adleoli staff i flaenoriaethau eraill. 

“Mae sawl blwyddyn wedi mynd heibio felly ers i ni allu darparu darlun Cymru gyfan, ac rwy’n hynod ddiolchgar i’r timau nyrsio ysgol y mae eu gwaith caled wedi golygu ein bod wedi gallu adfer y rhaglen hon i’w lefelau cyn y pandemig.”

Mae gan wefan Pob Plentyn Cymru Iechyd Cyhoeddus Cymru gyfoeth o adnoddau i helpu rhieni i’w helpu i roi’r dechrau gorau mewn bywyd i’w plant.

Yn seiliedig ar '10 Cam i Bwysau Iach', mae'r wefan yn rhoi awgrymiadau ymarferol a defnyddiol i rieni ar sut i sicrhau bod eu plentyn yn cael digon o ffrwythau a llysiau, yn treulio amser yn chwarae yn yr awyr agored, yn cael digon o gwsg, ac yn cyfyngu ar amser sgrin.