Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw newydd yn helpu cyfathrebwyr i fynd i'r afael â chamwybodaeth am y Coronafeirws

Cyhoeddwyd: 3 Awst 2021

Mae canllaw newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi'i lunio i helpu cyfathrebwyr a phobl sy'n gweithio gyda'r cyfryngau cymdeithasol i wybod sut i ymdrin â chamwybodaeth am y feirws.  

Mae sefydliadau sy'n canolbwyntio ar atal trosglwyddo a lliniaru niwed y Coronafeirws yng Nghymru yn cydnabod potensial gwybodaeth anwir i ddylanwadu ar ymddygiad y cyhoedd a thanseilio effaith eu hymdrechion. Bu galwadau cynyddol am ganllawiau i helpu i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â gwybodaeth anwir yn enwedig ar-lein. 

Wedi'i ddatblygu gan Gell Ymateb Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae ‘Canllaw ar gyfer mynd i'r afael â Gwybodaeth Anwir am y Coronafeirws neu'r Ymddygiad sy'n atal ei drosglwyddo’ yn nodi camau hawdd i'w defnyddio, effeithiol y gall timau cyfathrebu'r sector cyhoeddus eu cymryd i leihau effaith gwybodaeth anwir am y Coronafeirws. 

Bydd y canllaw yn galluogi timau cyfathrebu i ymateb yn briodol i gamwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda chamau clir ar y ffordd orau o ymdrin â chamwybodaeth ar-lein a sut i chwalu mythau am y Coronafeirws. 

Mae'r canllaw yn tynnu sylw at y dull o osgoi ailadrodd gwybodaeth anwir, a bod yn ddetholus ynghylch pa ddarnau o gamwybodaeth i'r fynd i'r afael â nhw yn uniongyrchol, gan grynhoi cyngor i mewn i siart lif hawdd i'w ddefnyddio er mwyn helpu cyfathrebwyr i wybodaeth pryd a sut i ymgysylltu'n fwyaf effeithiol. 

Meddai Katrina Hargrave, Uwch-ymarferydd Iechyd Cyhoeddus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Yr ymateb cyntaf, a mwyaf naturiol a gawn pan welwn gamwybodaeth ar-lein yw'r awydd i ymateb a chywiro'r honiadau ffug cyn gynted â phosibl. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion mae hyn dim ond yn ychwanegu at ‘gynyddu’ gwybodaeth anwir mewn ffrydiau cyfryngau cymdeithasol pobl a'i hyrwyddo ymhellach.  

“Mae'r pandemig wedi cynyddu'n sylweddol nifer y bobl sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i gael gafael ar wybodaeth a allai effeithio ar eu hymddygiad sy'n gysylltiedig ag iechyd, ond yn anffodus mae'r camwybodaeth wedi cynyddu'n sylweddol hefyd. Mae'n hanfodol bod y rhai sy'n gweithio ym maes cyfathrebu sy'n gysylltiedig ag iechyd yn cael yr offer i gefnogi eu hymateb i gamwybodaeth, gan sicrhau eu bod yn cadw rheolaeth dros y naratif a'u henw da fel ffynonellau gwybodaeth y gellir ymddiried ynddynt. 

“Credwn fod y canllaw hawdd ei ddefnyddio hwn yn cynnig y cymorth hwn.” 

Mae'r canllaw hwn am ddim i'w lawrlwytho, a gallwch ei weld yma: