Neidio i'r prif gynnwy

Byddwch yn ymwybodol o symptomau canser y geg – gallai achub eich bywyd.

14 Tachwedd 2024

Mae adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amlygu nad yw pobl sydd â symptomau canser y geg yn ceisio cyngor meddygol yn ddigon cynnar. Mae dros hanner yr holl achosion o ganserau’r geg yn cael eu diagnosio naill ai yn ystod cam 3 neu gam 4 (camau mwyaf datblygedig canser). Dynion sydd fwyaf tebygol o'i adael yn rhy hir cyn gweld gweithiwr meddygol proffesiynol.  

Dengys data ar gyfer Cymru bod cynnydd blwyddyn ar ôl blwyddyn yn yr achosion o ganser y geg. Mae achosion ar eu huchaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Y prif ffactorau risg ar gyfer y math hwn o ganser yw golau'r haul (canser y gwefusau), tybaco ac alcohol (canser y tafod a llawr y geg) a'r feirws papiloma dynol (cefn y geg). Yn 2023, daeth y rhan fwyaf o atgyfeiriadau ar gyfer diagnosis o ganser y geg gan feddygon teulu yn hytrach na chan ddeintyddion.  

Mae canser y geg yn cael ei weld ddwywaith mor aml mewn dynion nag mewn menywod. Mae achosion ar eu huchaf ymhlith pobl 60 a 69 oed. Mae mwy o ddynion na menywod yng Nghymru yn marw o ganser y geg. Dengys y ffigurau diweddaraf bod bron i 120 o ddynion wedi marw o ganser y geg yng Nghymru yn 2022. Mae 65% o bobl yn goroesi diagnosis o ganser y geg am bum mlynedd, ac mae’r ffigur hwnnw’n gwella yn y grŵp oedran 15-54 oed. 

Y tafod yw un o'r rhannau mwyaf cyffredin lle gall canser y geg ddatblygu, er y gellir ei ganfod mewn rhannau eraill o'r geg.  

Gellir camgymryd symptomau canser y geg am broblemau eraill yn eich ceg fel wlserau, heintiau candida neu ardaloedd gwyn, felly mae'n bwysig eu harchwilio.  

Gall y symptomau gynnwys: 

  • wlser yn eich ceg sy'n para mwy na 3 wythnos 

  • ardal goch neu wyn y tu mewn i'ch ceg 

  • lwmp y tu mewn i'ch ceg neu ar eich gwefus 

  • poen yn eich ceg 

  • anhawster llyncu 

  • anhawster siarad neu lais cryg (crawciol). 

  • lwmp yn eich gwar neu eich gwddf 

  • colli pwysau heb geisio 

Dywedodd yr Athro Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Fel yn achos pob canser, mae cael diagnosis cynnar yn galluogi unigolyn i gael triniaeth brydlon, cyn i’r canser ledu. Os bydd unrhyw un yn sylwi ar un o'r arwyddion rhybudd, dylai naill ai weld ei weithiwr deintyddol proffesiynol neu ei feddyg teulu. Mae hefyd yn hanfodol mynd i gael archwiliadau deintyddol rheolaidd gan fod gweithwyr deintyddol proffesiynol yn cael eu hyfforddi i adnabod arwyddion cynnar canser y geg.” 

Daw’r data yn yr adroddiad o Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) a System Gwybodaeth Rhwydweithiau Canser Cymru (CaNISC).