Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr 'her driphlyg' yn effeithio ar ddiogelwch bwyd i bawb

Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2021

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd effeithio ar bob un ohonom drwy'r bwyd y gallwn ei brynu a'i fwyta.

Mae'r papur yn rhan o gyfres o adroddiadau sy'n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd a llesiant y boblogaeth a sut y mae'r adeg hon yn ‘gyfle newydd’ i gryfhau negeseuon iechyd cyhoeddus ynghylch ymddygiad bwyd iach gyda'r proffil uwch y mae Coronafeirws wedi'i roi ar iechyd a llesiant i ni i gyd ac ailedrych ar gadwyni cyflenwi a'r system fwyd.  

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae diogelwch bwyd yn un o benderfynyddion pwysig iechyd a llesiant ar lefel poblogaeth genedlaethol, ond hefyd ar lefel unigol a chymunedol. 

“Mae'r boblogaeth gyfan yn cael ei heffeithio gan ddiogelwch bwyd i ryw raddau ond bydd grwpiau agored i niwed o'r boblogaeth yn cael eu heffeithio'n negyddol gan gynnwys y rhai ar incwm isel, menywod, teuluoedd â phlant, ffermwyr, pysgotwyr a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd. 

“Mae'r Her Driphlyg eisoes wedi, a bydd yn parhau i gael, effeithiau mawr, amlweddog ac annheg ar grwpiau poblogaeth ledled Cymru sydd wedi tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r mater hwn a'i archwilio'n fanylach.”  

Dyma'r canfyddiadau allweddol ar gyfer sut y gallai'r tri dylanwad effeithio ar argaeledd bwyd: 

  • Amlygodd dechrau'r pandemig yr effeithiau y gall ymddygiad defnyddwyr eu cael ar y cyflenwad bwyd, gyda phrynu mewn panig a phentyrru yn gwthio'r cyflenwadau bwyd yn y DU tuag at sefyllfa ansefydlog. 
  • Roedd prynu mewn panig wedi amlygu gorddibyniaeth y DU ar ddosbarthu, strategaethau ‘mewn union bryd’, a bwyd a chynhyrchion eraill wedi'u mewnforio. 
  • Hyd yma prin fu'r dystiolaeth o gadwyni cyflenwi bwyd yn cael eu heffeithio'n ddramatig gan yr Her Driphlyg, gan arwain at y ffaith bod bwyd yn parhau ar gael yn eang.   
  • Yn ystod y pandemig, mae cyfyngiadau ar gludo mathau penodol o fwyd i'r farchnad wedi cyfyngu ar y cyflenwad. Er enghraifft, mae ffrwythau a llysiau sydd wedi'u cludo mewn awyren wedi profi tarfu oherwydd cyfuniad o ymadael â’r UE a'r pandemig ac mae hyn wedi'i gwaethygu gan brinder gyrwyr HGV. 
  • Nid yw Brexit wedi cael yr effaith fawr a ragwelwyd ar gadwyni cyflenwi hyd yma, er bod rhywfaint o dystiolaeth yn cydnabod ei fod yn broblem, yn enwedig mewn porthladdoedd sydd â gofynion ar gyfer gwaith papur newydd a rhagofalon cyfyngu'r Coronafeirws. 
  • Mae cynllunio Brexit wedi nodi y gallai unrhyw ddosbarthu bwyd a tharfu o ran cadwyni cyflenwi bwyd gael effaith negyddol ar grwpiau agored i niwed gan gynnwys y rhai sydd ar incwm isel.  
  • Mae newid yn yr hinsawdd wedi tynnu sylw at heriau ychwanegol ar gyfer cyflenwad bwyd yn y tymor byr a'r hirdymor, gyda digwyddiadau tywydd eithafol â'r potensial i effeithio ar gynhyrchu bwyd yn fyd-eang, masnach a chadwyni cyflenwi, gan wneud prisiau'n fwy cyfnewidiol a / neu newid cynhyrchiant yn yr hirdymor.  
  • Ynghyd â Brexit ac effaith bosibl newid yn yr hinsawdd, mae pwysigrwydd cadwyni cyflenwi byrrach i gynnal diogelwch bwyd wedi'i ddatgelu gan y pandemig sydd hefyd â'r gallu i darfu ar gadwyni cyflenwi byd-eang. Er enghraifft, gallai gwledydd sy'n allforio grawnfwyd leihau lefel eu hallforion, neu gallai diffyg cynaeafwyr effeithio arnynt a gallai hyn achosi argyfwng mewn gwledydd sy'n dibynnu'n drwm ar y cynnyrch hwn a phrinder mewn gwledydd eraill fel y DU 

Meddai Liz: “Nid oes gan Gymru ei system fwyd ar wahân ei hun. Mae'n cael ei llunio gan bolisïau ehangach yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol fel masnach, yr economi a chynaliadwyedd amgylcheddol sy'n rhyngweithio mewn ffordd gymhleth ac amlochrog ac yn cyflwyno cyfres o ‘bethau anhysbys anhysbys’ ar gyfer gwneuthurwyr polisi ac iechyd a llesiant. 

“Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bresennol yn gyfle i Gymru a'r DU ailystyried polisi a chyflenwad bwyd gan gynnwys edrych ar ffyrdd a fydd yn dda ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol, er enghraifft, cadwyni cyflenwi byrrach a allai olygu llai o becynnu, prosesu a lleihau milltiroedd bwyd a gallai gryfhau pwysigrwydd ffermwyr Cymru yn system fwyd y DU. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai hyn gael effaith ganlyniadol ar ddeiet ac ymddygiad iechyd wrth i bobl addasu i brynu bwyd mwy tymhorol a bwyd a gynhyrchir yn lleol.”  

Mae'r papur hwn yn un o gyfres o adroddiadau byr sy'n ceisio darparu trosolwg lefel uchel, strategol o'r rhyngweithio cymhleth rhwng Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd a phenderfynyddion allweddol iechyd, llesiant a thegwch. Gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, mae pob papur yn canolbwyntio ar un o benderfynyddion allweddol iechyd neu grŵp poblogaeth penodol ac mae'n ceisio cefnogi rhanddeiliaid strategol a sefydliadol i ddeall yn well yr Her Driphlyg sy'n wynebu Cymru yn awr, ac yn y dyfodol. Mae'n rhoi awgrymiadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi, sefydliadau a chymunedau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r effeithiau hyn ac mae'n nodi'r camau posibl y gallant eu cymryd.  

Mae'r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar fater Diogelwch Bwyd ac iechyd, llesiant yng nghyd-destun yr Her Driphlyg yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar argaeledd bwyd, hygyrchedd bwyd a defnyddio bwyd. 

Ymateb i Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a’r Newid yn yr Hinsawdd o ran iechyd, llesiant a thegwch yng Nghymru