Cyhoeddwyd: 19 Hydref 2021
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at sut y gallai dylanwadau cyfunol Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd effeithio ar bob un ohonom drwy'r bwyd y gallwn ei brynu a'i fwyta.
Mae'r papur yn rhan o gyfres o adroddiadau sy'n tynnu sylw at sut y bydd yr ‘her driphlyg’ yn cael effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol ar iechyd a llesiant y boblogaeth a sut y mae'r adeg hon yn ‘gyfle newydd’ i gryfhau negeseuon iechyd cyhoeddus ynghylch ymddygiad bwyd iach gyda'r proffil uwch y mae Coronafeirws wedi'i roi ar iechyd a llesiant i ni i gyd ac ailedrych ar gadwyni cyflenwi a'r system fwyd.
Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae diogelwch bwyd yn un o benderfynyddion pwysig iechyd a llesiant ar lefel poblogaeth genedlaethol, ond hefyd ar lefel unigol a chymunedol.
“Mae'r boblogaeth gyfan yn cael ei heffeithio gan ddiogelwch bwyd i ryw raddau ond bydd grwpiau agored i niwed o'r boblogaeth yn cael eu heffeithio'n negyddol gan gynnwys y rhai ar incwm isel, menywod, teuluoedd â phlant, ffermwyr, pysgotwyr a'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd.
“Mae'r Her Driphlyg eisoes wedi, a bydd yn parhau i gael, effeithiau mawr, amlweddog ac annheg ar grwpiau poblogaeth ledled Cymru sydd wedi tynnu sylw at yr angen i fynd i'r afael â'r mater hwn a'i archwilio'n fanylach.”
Dyma'r canfyddiadau allweddol ar gyfer sut y gallai'r tri dylanwad effeithio ar argaeledd bwyd:
Meddai Liz: “Nid oes gan Gymru ei system fwyd ar wahân ei hun. Mae'n cael ei llunio gan bolisïau ehangach yn rhyngwladol, yn genedlaethol ac yn lleol fel masnach, yr economi a chynaliadwyedd amgylcheddol sy'n rhyngweithio mewn ffordd gymhleth ac amlochrog ac yn cyflwyno cyfres o ‘bethau anhysbys anhysbys’ ar gyfer gwneuthurwyr polisi ac iechyd a llesiant.
“Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bresennol yn gyfle i Gymru a'r DU ailystyried polisi a chyflenwad bwyd gan gynnwys edrych ar ffyrdd a fydd yn dda ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol, er enghraifft, cadwyni cyflenwi byrrach a allai olygu llai o becynnu, prosesu a lleihau milltiroedd bwyd a gallai gryfhau pwysigrwydd ffermwyr Cymru yn system fwyd y DU. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu y gallai hyn gael effaith ganlyniadol ar ddeiet ac ymddygiad iechyd wrth i bobl addasu i brynu bwyd mwy tymhorol a bwyd a gynhyrchir yn lleol.”
Mae'r papur hwn yn un o gyfres o adroddiadau byr sy'n ceisio darparu trosolwg lefel uchel, strategol o'r rhyngweithio cymhleth rhwng Brexit, Coronafeirws a newid yn yr hinsawdd a phenderfynyddion allweddol iechyd, llesiant a thegwch. Gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth, mae pob papur yn canolbwyntio ar un o benderfynyddion allweddol iechyd neu grŵp poblogaeth penodol ac mae'n ceisio cefnogi rhanddeiliaid strategol a sefydliadol i ddeall yn well yr Her Driphlyg sy'n wynebu Cymru yn awr, ac yn y dyfodol. Mae'n rhoi awgrymiadau i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a llunwyr polisi, sefydliadau a chymunedau ynghylch sut y gellid mynd i'r afael â'r effeithiau hyn ac mae'n nodi'r camau posibl y gallant eu cymryd.
Mae'r Papur Sbotolau hwn yn canolbwyntio ar fater Diogelwch Bwyd ac iechyd, llesiant yng nghyd-destun yr Her Driphlyg yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar argaeledd bwyd, hygyrchedd bwyd a defnyddio bwyd.