Neidio i'r prif gynnwy

Bydd mynd i'r afael ag amodau gwaith yn gwella iechyd a llesiant da i bawb

Cyhoeddwyd: 25 Mai 2022

Mae ‘gwaith teg’ yn floc adeiladu hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant da, ac mae gweithlu iach sy'n ymgysylltu yn cyfrannu at gynhyrchiant busnes a ffyniant cymdeithasol, yn ôl casgliad adroddiad a chanllaw a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Gwaith teg yw lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, yn ddiogel ac yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach, cynhwysol lle mae hawliau'n cael eu parchu.

Mae cymryd rhan mewn gwaith teg yn rhoi ymdeimlad o bwrpas ac mae'n golygu bod gan bobl arian ac adnoddau ar gyfer bywyd iach iddyn nhw a'u teuluoedd. Mae hyn yn lleihau straen seicolegol, yn gam allan o dlodi ac yn helpu plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Gall gwaith teg gyfrannu at economi llesiant, gan wella canlyniadau i'r boblogaeth gyfan, gan gynnwys y rhai mwyaf difreintiedig.

Meddai Dr Ciarán Humphreys, cyd-awdur yr adroddiad ac Ymgynghorydd mewn Iechyd Cyhoeddus gyda'r Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae pobl yng Nghymru yn marw'n gynnar oherwydd diffyg blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd. Mae gwaith teg, ynghyd ag addysg, incwm, tai a'r ardal o'n hamgylch yn darparu'r sylfeini i ddiogelu ac adeiladu ein hiechyd. Heb y blociau adeiladu hyn ar waith, mae iechyd a llesiant pobl yn dioddef, gan arwain at salwch y gellir ei osgoi ac sy'n annheg.

“Ledled Cymru, cyn y pandemig roedd dros un o bob tair blynedd gynamserol o fywyd a gollwyd yn gysylltiedig â diffyg blociau adeiladu sylfaenol ar gyfer iechyd. Drwy gryfhau'r blociau adeiladu hyn gallwn wella iechyd ein cymunedau, yn enwedig y rhai y mae angen y cymorth hwnnw arnynt fwyaf.

“Er mwyn mynd i'r afael â hyn, gwnaethom gynnull panel arbenigol, gydag amrywiaeth eang o arbenigedd gan gynnwys y byd academaidd, busnes, y sector cyhoeddus a sectorau eraill yn ogystal â phrofiad byw, i gefnogi'r gwaith o ddatblygu argymhellion i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg.
“Gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau'n datblygu'r argymhellion hyn ac yn gweithredu meddylfryd ‘Gwaith teg’ fel rhan annatod o'u prosesau cynllunio, gallan nhw a'r cymunedau y maent yn gweithredu ynddynt wneud gwahaniaeth gwirioneddol lle mae'n cyfrif; gan wella tegwch, ychwanegu blynyddoedd at fywyd a gwireddu cyd-fanteision cynyddu cynhyrchiant, cadw staff ac mewn llawer o achosion, y llinell waelod.”

Meddai'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol, Hannah Blythyn:  

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn wlad o waith teg oherwydd bod gwell bargen i weithwyr yn allweddol i Gymru fwy ffyniannus a chyfartal.  Rwy'n falch bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cydnabod yn glir bod gwaith teg yn dda i'n hiechyd a'n llesiant meddwl a chorfforol.  Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gymryd pa gamau bynnag a allwn i hyrwyddo gwaith teg a rhannu arfer da.  Ac rwy'n croesawu ymrwymiad Iechyd Cyhoeddus Cymru i chwarae eu rhan i hyrwyddo gwaith teg a'i fanteision.”   

Cafodd y panel dystiolaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac arbenigwyr pwnc, nodwyd tystiolaeth ychwanegol, a daethpwyd ag arbenigedd yr aelodau eu hunain i lunio themâu, cyfleoedd ac argymhellion drafft. Gofynnir i awdurdodau lleol, byrddau ac eraill sicrhau'r gwerth gorau am arian drwy gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol, gan weithio mewn partneriaeth â busnes a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n atal rhai pobl rhag cael gwaith teg.

Mae'r canfyddiadau hyn wedi'u defnyddio i lunio canllaw a deunydd arall i ddylanwadu ar bartneriaethau lleol a rhanbarthol i gynyddu cyfranogiad mewn gwaith teg.