Cyhoeddwyd: 23 Hydref 2025
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn parhau i brofi cyfraddau uwch o ganser na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae'r adroddiad diweddaraf ar Mynychder Canser yng Nghymru 2002–2022 yn dangos fod cyfradd achosion canser 20 y cant yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o'r boblogaeth o'i gymharu â'r pumed lleiaf difreintiedig ym 2022. Mae'r bwlch hwn wedi aros yr un fath i raddau helaeth ers 2006.
Roedd dros hanner yr holl achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2022 mewn pobl 70 oed neu hŷn. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, er bod nifer yr achosion wedi gostwng yn ystod blwyddyn lawn gyntaf pandemig COVID-19 yn 2020, mae nifer yr achosion yn 2022 yn awgrymu dychweliad rhannol i dueddiadau cyn y pandemig a naid yn y nifer o achosion yn dilyn oedi mewn diagnosisau mewn rhai mathau o ganser.
Rhwng 2002 a 2022, cododd nifer yr achosion newydd o ganser yng Nghymru bron i draean, o tua 16,000 i ychydig dros 21,000, gan adlewyrchu'n bennaf newidiadau ym maint y boblogaeth a chyfran y bobl hŷn sy'n byw yng Nghymru. Ar ôl ystyried y boblogaeth sy'n heneiddio a newidiadau ym maint y boblogaeth, cynyddodd y gyfradd mynychder nifer yr achosion o ganser dim ond 1.2% rhwng 2002 a 2022. Mae'r newid hwn yn adlewyrchu patrymau ffactorau risg canser blaenorol a hanesyddol, fel ysmygu, gordewdra ac alcohol mewn gwahanol rannau o'n cymdeithas a achosir gan anghydraddoldebau mewn ffactorau economaidd-gymdeithasol ac achosion sylfaenol eraill o afiechyd.
Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth a Gwyliadwriaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae nifer cyffredinol y bobl sy’n cael diagnosis o ganser yng Nghymru wedi cynyddu dros y ddau ddegawd diwethaf. Mae hyn oherwydd newidiadau ym maint y boblogaeth, strwythur oedran y boblogaeth a phatrymau blaenorol a hanesyddol o ffactorau risg canser sy'n effeithio ar wahanol grwpiau yn y gymdeithas dros amser. Fodd bynnag, mae'r bwlch parhaus mewn cyfraddau canser rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn parhau i fod yn destun pryder.
Mae'r adroddiad diweddaraf ar Fynychder yr Achosion o Ganser yng Nghymru 2002–2022 yn cynnwys dadansoddiad newydd o gam adeg diagnosis yn ôl amddifadedd ardal, gan ddangos bod lefel yr amddifadedd ardal yn gysylltiedig â'r cam y caiff canser ei ddiagnosio.
Roedd cyfraddau diagnosis cam hwyr o ganser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn yn uwch na diagnosis cam cynnar ar draws pob lefel o amddifadedd ardal. Roedd y gwahaniaethau hyn yn ehangach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, yn enwedig ar gyfer canser yr ysgyfaint.
Ychwanegodd yr Athro Huws:
“Mae atal canser a lleihau anghydraddoldebau mewn cyfraddau canser yn gofyn am fynd i’r afael â gwreiddiau cymdeithasol ffactorau risg a all arwain at ganser. Mae'r rhesymau pam mae pobl yn ysmygu, yn mynd dros bwysau ac yn ordew, neu'n yfed gormod o alcohol, er enghraifft, yn gymhleth, ac y tu allan i'r gwasanaeth iechyd. Fodd bynnag, mae gwasanaethau'n bodoli i helpu pobl i ymdopi â rhai o'r problemau hyn unwaith y byddant yn digwydd, fel ein gwasanaethau 'Helpa Fi i Stopio' a 'Pwysau Iach, Byw’n Iach'. Gellir atal rhai mathau o ganser, fel canser ceg y groth a rhai mathau o ganser y geg a'r gwddf, yn hawdd gyda'r brechlyn HPV effeithiol.
“Mae cynyddu cyfraddau diagnosis canser tra ei fod yn y cam cynnar hefyd yn gymhleth. Cymerodd WCISU yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ran mewn astudiaethau rhyngwladol i ddarganfod y rhesymau dros ddiagnosis hwyr o ganser yn ein poblogaeth. Mae mynd i apwyntiadau sgrinio gan Bron Brawf Cymru, Sgrinio Coluddion Cymru, a Sgrinio Serfigol Cymru yn ffyrdd effeithiol o ganfod canser yn gynnar, cyn i unrhyw symptomau ymddangos, fel y gellir dechrau triniaeth effeithiol yn gynnar.
“Mae’n bwysig ceisio cymorth ar unwaith gan eich meddyg teulu os ydych chi’n poeni am unrhyw symptomau trafferthus, fel gwaed yn eich pŵ, peswch newydd na fydd yn diflannu, neu lwmp yn eich bron neu rywle arall ar eich corff nad ydych chi’n siŵr amdano, er enghraifft. Drwy wneud hynny, gallwch gael diagnosis neu dawelwch meddwl yn gynt yn hytrach na’n hwyrach a dechrau triniaeth a all fod yn effeithiol.”
Am y tro cyntaf, mae'r adroddiad hwn yn cynnwys dadansoddiad o nifer yr achosion o ganserau niwroendocrin a chanser yr ysgyfaint o fath celloedd bach. Ein nod oedd sefydlu sylfaen glir o’r achosion ym 2022 ar gyfer ei gymharu yn y dyfodol. Gan mai dyma'r flwyddyn gyntaf o’u hadrodd, dylid dehongli’r ffigurau yn ofalus, a byddwn yn mireinio ein dadansoddiadau yn y dyfodol.