Neidio i'r prif gynnwy

Bron pedwar o bob deg o gleifion canser yng Nghymru wedi diagnosis mewn lleoliadau brys

Cyhoeddwyd: 8 Ebrill 2022

Mae ymchwil newydd gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu bod bron pedwar o bob deg (37.4 y cant) o'r wyth math o ganser yn yr astudiaeth yn cael diagnosis mewn lleoliadau brys, fel adrannau damweiniau ac achosion brys ysbytai.

Mae'r ymchwil yn dangos bod cyfran uwch o gleifion yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser pan fyddant yn cyflwyno fel achos brys, o gymharu â gwledydd tebyg eraill.

Cafodd y dadansoddiad gan y Bartneriaeth Meincnodi Canser Ryngwladol (ICBP), mewn cydweithrediad â WCISU ei gyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Lancet Oncology, a dyma'r cyntaf o'i fath yn y byd.

Edrychodd y gwaith ymchwil ar ddiagnosis o fwy na 850,000 o ganserau rhwng 2012 a 2017, mewn gwledydd tebyg, gyda gwasanaethau iechyd cymharol debyg (Cymru, Lloegr, yr Alban, Norwy, Seland Newydd, Awstralia a Chanada). Dangosodd er bod y cyfraddau diagnosis brys yng Nghymru yn debyg i rai Lloegr (37 y cant) a'r Alban (38.5 y cant), mae'r gyfradd hon y tu ôl i lawer o daleithiau Awstralia a Chanada.

Y canserau a oedd fwyaf tebygol o gael diagnosis mewn lleoliadau brys oedd y rhai â llai o symptomau neu symptomau mwy cyffredinol, fel canser yr ofari, y pancreas, yr afu/iau a’r ysgyfaint.  Yn ogystal, roedd pobl hŷn yn fwy tebygol o gael diagnosis drwy'r llwybr hwn.

Mae'r ymchwil yn dangos bod gan wledydd â lefelau uwch o ddiagnosis canser mewn lleoliadau brys gyfraddau goroesi canser gwaeth o ganlyniad.

Meddai'r Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr WCISU:

“Yr astudiaeth hon yw'r gyntaf o’i bath yn y byd ac mae'n dangos pwysigrwydd diagnosis cynnar o ganser drwy fynychu sgrinio, ceisio cymorth yn gynnar ar gyfer symptomau sy'n peri pryder, mynediad at wasanaethau meddyg teulu ac ymchwiliadau a phrofion, fel sganiau, a chanolfannau diagnosis cyflym.

“Mewn gwledydd lle roedd cyfraddau uwch o gleifion heb gael diagnosis o ganser tan iddynt gyflwyno mewn adrannau achosion brys, roedd cyfraddau goroesi is cyfatebol o'r clefyd.

“Rhoddodd yr ymchwil gan ICBP, WCISU a chofrestrfeydd canser mewn gwledydd eraill ddealltwriaeth newydd o'r anawsterau a achosir gan ddiagnosis diweddarach a brys.  Mae'n siomedig gweld bod Cymru ychydig ar ei hôl hi o gymharu â gwledydd eraill, ond mae'n dangos bod hon yn broblem fyd-eang.

“Yn anochel, y canserau hynny sydd ag ychydig o symptomau neu symptomau cyffredinol iawn sy'n cael diagnosis mewn lleoliadau brys yn y pen draw.  Mae data a dealltwriaeth fel y dadansoddiad hwn yn dangos yr effaith y mae hyn yn ei chael ar gleifion.”