Cyhoeddwyd: 23 Medi 2024
Gyda dechrau'r flwyddyn academaidd newydd yn prysur agosáu, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog myfyrwyr prifysgol newydd a myfyrwyr sy'n dychwelyd i sicrhau eu bod wedi cael eu holl frechiadau yn ystod plentyndod.
Gyda llawer o bobl yn dod at ei gilydd am y tro cyntaf, gall prifysgolion fod yn fannau problemus i heintiau difrifol ledaenu. Gall cael eich brechu yn erbyn salwch fel llid yr ymennydd, septisemia a'r frech goch, leihau'r risg o salwch difrifol yn sylweddol.
Meddai Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae brechlynnau'n ffordd ddiogel ac effeithiol o atal lledaeniad clefydau difrifol. Rydym yn annog yr holl fyfyrwyr i gael eu brechu cyn iddynt gyrraedd y campws neu cyn gynted â phosibl ar ôl cyrraedd. Mae prifysgolion yn amgylcheddau lle gall heintiau ledaenu'n gyflym oherwydd bod nifer mawr o bobl yn byw'n agos at ei gilydd.”
I sicrhau bod myfyrwyr wedi'u hamddiffyn erbyn heintiau difrifol, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynghori bod myfyrwyr yn gwirio eu statws brechu drwy gysylltu â'u meddyg teulu neu dîm iechyd plant eu bwrdd iechyd lleol er mwyn cadarnhau eu hanes brechu a derbyn unrhyw ddosau a gollwyd.
Byddem hefyd yn annog yr holl fyfyrwyr, y rhai newydd a'r rhai sy'n dychwelyd, i gofrestru gyda meddyg teulu lleol er mwyn sicrhau y gallant gael mynediad at ofal meddygol, gan gynnwys brechiadau, gan fyddant yn y brifysgol. Ni fydd cofrestru yn lleol yn atal myfyrwyr rhag derbyn gofal gartref dros y gwyliau.
Ychwanegodd Dr Chris Johnson: “Mae llawer o bobl ifanc nad ydynt yn gwybod eu hanes brechu. Mae'n hanfodol i fyfyrwyr sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn fel y gallant ganolbwyntio ar fwynhau eu profiad yn y brifysgol.”
Mae'r GIG yng Nghymru yn cynnig brechlynnau am ddim drwy gydol plentyndod er mwyn amddiffyn yn erbyn amrywiaeth o glefydau. I fyfyrwyr, mae'n arbennig o bwysig eu bod yn gyfoes o ran y canlynol:
Mae Bobbie Lee o Ben-y-bont ar Ogwr, a gollodd ei brawd 16 oed, Morgan, i lid yr ymennydd meningococaidd B, yn gwybod am effeithiau trychinebus y clefyd. Gwaethygodd symptomau tebyg i ffliw Morgan yn gyflym, ac er iddo gael sylw meddygol ar unwaith, gwaethygodd ei gyflwr yn gyflym, gan arwain at ei farwolaeth drasig.
Mae Bobbie bellach yn eirioli'n angerddol dros bobl ifanc i sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn drwy gael eu brechu yn erbyn llid yr ymennydd, nad oedd ar gael ar adeg salwch Morgan ond a allai fod wedi achub ei fywyd. Mae'n annog myfyrwyr i weithredu, gwirio eu statws brechu drwy gysylltu â'u meddyg teulu neu Dîm Iechyd Plant eu bwrdd iechyd lleol er mwyn sicrhau eu bod wedi'u hamddiffyn yn llawn.
Dywedodd Bobbie Lee: "Fel rhywun sydd wedi profi effaith ddinistriol llid yr ymennydd yn uniongyrchol, ni allaf bwysleisio digon mor bwysig yw blaenoriaethu eich iechyd. Cymerwch eiliad i wirio eich bod yn gyfoes o ran eich holl frechiadau ac yn deall symptomau llid yr ymennydd. Mae'n gam bach, ond gallai achub eich bywyd neu fywyd un o'ch anwyliaid."
Mae'n hanfodol bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, septisemia a'r frech goch. Mae'n hanfodol gofyn am gymorth meddygol ar unwaith os bydd y symptomau hyn yn codi.
Gyda disgwyl i'r pwysau ar y GIG godi'r gaeaf hwn, mae'n bwysicach nag erioed i fyfyrwyr aros yn iach ac amddiffyn y rhai o'u hamgylch. Mae unigolion cymwys hefyd yn cael eu hannog i gael eu brechu yn erbyn ffliw a COVID-19 er mwyn atal salwch difrifol.
Mae pobl ifanc yn eu harddegau fel arfer yn cael y brechlyn MenACWY pan maent yn 13 neu'n 14 oed (blwyddyn 9 yn yr ysgol). Os gwnaethoch golli'r brechlyn pan oeddech yn yr ysgol, gallwch ei gael hyd nes eich bod yn 25 oed. Gofynnwch i'ch meddygfa am gael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am frechiadau allweddol i fyfyrwyr a brechlynnau eraill y gallwch fod yn gymwys i'w cael, ewch i'n gwefan yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/myfyrwyr-a-yw-brechu-ar-eich-rhestr-o-bethau-iw-gwneud/