Cyhoeddwyd: 19 Mawrth 2025
Yn dilyn adolygiad o’r dystiolaeth sydd ar gael gan y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd ag asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill yn y DU, wedi cadarnhau na fydd brech M, Cytras Ia a Chytras Ib bellach yn cael eu hystyried yn glefydau heintus â chanlyniadau pellgyrhaeddol (HCID)
Mae’r penderfyniad wedi’i wneud am nad yw’r dystiolaeth sy’n ymwneud â’r cytrasau hyn bellach yn bodloni’r meini prawf ar gyfer HCID, sy’n cynnwys cyfradd marwolaethau uchel a diffyg ymyriadau sydd ar gael.
Mae'n bwysig nodi nad yw'r penderfyniad yn golygu nad yw brech M, cytras I bellach yn arwain at ganlyniadau i iechyd y cyhoedd, gan fod Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn dal i ystyried yr afiechyd yn argyfwng iechyd cyhoeddus o bryder rhyngwladol.
Bu nifer fach o achosion o frech M, cytras I yn y DU hyd yma, ac ni adroddwyd am unrhyw farwolaethau.
Ni nodwyd unrhyw achosion o frech M, cytras I yng Nghymru. Gellir cael brechiadau ar gyfer grwpiau cymwys trwy glinigau iechyd rhywiol. Ewch i https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/mpox/ i weld a ydych yn gymwys.
Dywedodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ynghyd â’n partneriaid yn asiantaethau iechyd y cyhoedd eraill y DU, yn adolygu’n barhaus y dystiolaeth sydd ar gael i sicrhau bod ein hymateb i faterion yn gytbwys ac yn effeithiol.
“Mae cyngor y Pwyllgor Cynghori ar Bathogenau Peryglus, yn dangos bod tystiolaeth gadarn o effeithiolrwydd y brechlyn, ynghyd â chyfradd marwolaethau isel.
“Fodd bynnag, mae brech M, cytras I yn dal i fod yn glefyd hysbysadwy sy’n gofyn am ymateb iechyd y cyhoedd a byddwn, ynghyd â’n partneriaid, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal yr haint rhag lledaenu.
“Er bod haint brech M yn ysgafn i lawer, gall achosi symptomau difrifol gan gynnwys brechau a phothelli anarferol, twymyn a chur pen. Mae’n bwysig, felly, bod pobl sydd wedi teithio i wledydd yr effeithir arnynt yn Affrica yn parhau i fod yn effro i’r risgiau ac yn ceisio cyngor meddygol os oes angen.”
Nid oes achosion o drosglwyddiad yn y gymuned o frech M, cytras I yn y DU ac mae'r risg i'r boblogaeth yn parhau i fod yn isel.