Neidio i'r prif gynnwy

Beth rydym wedi'i ddysgu o'n hymateb cychwynnol i Coronafeirws yng Nghymru?

Mae papur sydd newydd ei gyhoeddi yn trafod gweithrediadau olrhain cysylltiadau yng Nghymru ac yn amlinellu argymhellion ar gyfer cam nesaf y gweithgarwch

Mae'r papur yn canolbwyntio ar waith Cell Olrhain Cysylltiadau (CTC) Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystod camau cychwynnol pandemig Coronafeirws. 

Mae'n disgrifio'r prosesau dan sylw wrth baratoi a gweithredu'r gell, yn ogystal â phrofiadau'r rhai sy'n ymwneud ag ymdrechion i olrhain cysylltiadau achosion a gadarnhawyd o Coronafeirws yng Nghymru. 

Darperir dealltwriaeth ymarferol a gweithredol o feysydd gwaith allweddol gan gynnwys: 

•    Staffio, gan gynnwys cynnull staff l
•    Hyfforddiant 
•    Dogfennaeth
•    Treialu a gweithredu'r gell 

Darperir cyfres o argymhellion hefyd i helpu i lywio'r gwaith o gyflawni a gweithredu gweithgareddau olrhain cysylltiadau wrth symud ymlaen. 

Mae'r rhain yn cynnwys cynnull staff nad ydynt yn staff diogelu iechyd i ryddhau timau diogelu iechyd i ymdrin â materion mwy cymhleth, ac ymgysylltu â CTC eraill i sicrhau dull cyson ac i ddatrys problemau. 

Cafodd y papur, a gyhoeddwyd yn Public Health in Practice, ei lunio gan Adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru a staff sy'n cynorthwyo ymateb diogelu iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Dywedodd Diana Bright, Uwch-swyddog Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Olrhain cysylltiadau yw un o'r camau ymateb iechyd cyhoeddus allweddol i reoli achos o feirws newydd, yn enwedig yn absenoldeb brechlyn. 

“Yn y papur hwn, mae Staff Iechyd Cyhoeddus Cymru a oedd yn ganolog i waith y CTC yn disgrifio eu profiadau a rhai o'r gwersi a ddysgwyd fel y gellir trosglwyddo'r dysgu i gamau diweddarach y pandemig neu achosion o feirysau newydd yn y dyfodol”. 

Mae rôl CTC Iechyd Cyhoeddus Cymru o ran olrhain cysylltiadau achosion unigol bellach wedi'i disodli drwy gefnogi achosion o Coronafeirws mewn lleoliadau caeedig fel cartrefi gofal. Fodd bynnag, mae angen dysgu o'r ymateb iechyd cyhoeddus cychwynnol i Coronafeirws er mwyn gwella'r broses o gyflwyno a gweithredu olrhain cysylltiadau wrth i ni symud drwy gamau'r pandemig. 

Gallwch ddarllen y papur yn llawn ar-lein yn Public Health in Practice -  
https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S2666535220300343?via%3Dihub