Neidio i'r prif gynnwy

Astudiaeth newydd yn dangos effeithiolrwydd y brechlyn ffliw ymhlith plant

Cyhoeddwyd: 10 Rhagfyr 2025

Dengys gwybodaeth newydd o astudiaeth* a gyhoeddwyd heddiw fod y brechiad ffliw eleni yn cynnig amddiffyniad sylweddol a’i fod yn arbennig o effeithiol wrth atal plant 2-17 oed rhag cael eu derbyn i'r ysbyty. Mae'r brechlyn 72 y cant yn effeithiol ymhlith plant 2-17 oed wrth atal derbyniadau i'r ysbyty gydag achos wedi’i gadarnhau o ffliw.

Eleni gwelir nifer sylweddol o achosion o ffliw ym mhob grŵp oedran, yn enwedig ymhlith plant a phobl ifanc ar hyn o bryd, ac felly mae'r dystiolaeth bod y brechlyn yn effeithiol iawn yn y grŵp hwn yn newyddion hynod o gadarnhaol.
Dangosodd yr astudiaeth, a wnaed yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, hefyd fod brechlyn eleni 34 y cant yn effeithiol wrth atal oedolion 65 oed a hŷn rhag cael eu derbyn i'r ysbyty oherwydd ffliw, sy'n debyg i frechiadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol.

Mae canfyddiadau'r astudiaeth yn gyson ag astudiaeth flaenorol a wnaed yn Lloegr gan Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA), a ddangosodd effeithiolrwydd o 74 y cant wrth atal derbyniadau i'r ysbyty ymhlith plant 2-17 oed, 39 y cant yn effeithiol ar gyfer oedolion 65 oed a hŷn a 33 y cant yn effeithiol ar gyfer oedolion 18 i 64 oed.

Dylai rhieni fod yn ymwybodol, hyd yn oed os na chafodd eu plentyn ei frechu pan ddaeth y timau imiwneiddio i'w hysgol, nad yw'n rhy hwyr ac y gallant ddal i gael amddiffyniad ar gyfer eu plentyn mewn pryd i’r Nadolig.  Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarganfod sut i gael brechiad yn eich ardal chi.

Brechiad rhag y ffliw yw un o'r ffyrdd gorau i ni gefnogi pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, a thrwy hynny helpu i atal salwch, datgelu problemau'n gynnar, a sicrhau bod gofal yn diwallu anghenion pobl.

Llesiant yn ystod y Gaeaf: Camau Ymarferol

Mae adroddiad Iechyd dros y gaeaf: Sut y Gallwn Ni i Gyd Wneud Gwahaniaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru’n amlinellu saith ffordd syml y gall pobl gadw’n ddiogel: 

  • Gwnewch gynllun ar gyfer y gaeaf: Gwybod beth i'w wneud os yw symptomau'n gwaethygu; cadwch y gwres ymlaen, cadwch drefn ar feddyginiaeth a chysylltiadau brys.
  • Paratowch becyn argyfwng bach Torch, radio, banc pŵer i’r ffôn, dŵr potel.
  • Cadwch yn gynnes gartref: Cynheswch ystafelloedd lle mae pobl yn byw i o leiaf 18°C, gwisgwch haenau a bwytewch brydau cynnes.
  • Gwybod ble i gael gofal: Defnyddiwch GIG 111 Cymru ar-lein, fferyllfeydd cymunedol, ac archebwch bresgripsiynau'n gynnar.
  • Cadwch mewn cysylltiad: Mae tywydd oer yn cynyddu unigrwydd—gwiriwch ar gymdogion, ffrindiau a theulu.
  • Gostyngwch y risg o haint: Golchi dwylo, awyru, dal peswch, aros gartref pan yn sâl, gwisgo masg pan yn briodol.

Pwysigrwydd brechu

  • Brechlynnau ffliw, COVID-19 ac RSV yw'r dulliau mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol yn y gaeaf.
  • Mae imiwnedd o frechiadau ffliw blaenorol yn lleihau dros amser, mae’r brechlyn ffliw eleni wedi'i ddiweddaru i gyd-fynd â’r mathau sy'n cylchredeg, gan gynnwys H3N2.
  • Mae amddiffyniad yn datblygu o fewn 14 diwrnod, felly mae’n hanfodol i’w gael yn gynnar.

Pwy sy’n wynebu’r risg fwyaf?

  • Yn hanesyddol, oedolion hŷn a phreswylwyr cartrefi gofal sy’n wynebu’r risg fwyaf oherwydd y math A(H3) o ffliw sydd ar led yng Nghymru ar hyn o bryd.
  • Pobl â chyflyrau hirdymor fel clefydau anadlol, diabetes, clefyd y galon, a systemau imiwnedd gwan.
  • Mae oedolion â chlefyd cronig yr afu 48 gwaith yn fwy tebygol o brofi canlyniadau difrifol o ffliw na gweddill y boblogaeth.
  • Mae'r rhai sydd â systemau imiwnedd gwan yn wynebu risg 45 gwaith yn uwch o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol.

*Mae'r astudiaeth, a arweiniwyd gan Iechyd Cyhoeddus yr Alban, yn astudiaeth gyfunol o effeithiolrwydd y brechlyn ffliw yng Nghymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon.  Roedd yn cynnwys 1,379 o achosion o ffliw a 12,364 o reolyddion, a samplwyd o wythnos 40 i wythnos 47.