Cyhoeddwyd: 18 Mehefin 2023
Heddiw mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Iechyd ar effeithiau newid hinsawdd ar iechyd a llesiant ledled Cymru. Mae'r asesiad yn cydnabod mai newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf i iechyd a llesiant y bydd Cymru yn ei wynebu'r ganrif hon.
Mae ein hiechyd a'n llesiant yn dibynnu ar ecosystemau pwysig fel dŵr, aer a phridd i ddarparu'r amodau hanfodol ar gyfer bywyd iach. Bydd newidiadau i'n hinsawdd fel tywydd gwlypach yn y gaeaf, llifogydd, erydu arfordirol, a hafau sychach, poethach yn cael effeithiau sylweddol ar iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol fel cynyddu salwch sy'n gysylltiedig â gwres, problemau iechyd meddwl o ganlyniad i brofi llifogydd, a tharfu ar wasanaethau hanfodol.
Er y bydd newid hinsawdd yn effeithio ar iechyd y boblogaeth gyfan mewn rhyw ffordd, ceir grwpiau sy'n debygol o fod yn fwy agored i niwed o ran effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant gan gynnwys oedolion hŷn, plant a phobl ifanc, pobl sydd â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl mewn rhai grwpiau galwedigaeth (fel gweithwyr awyr agored), pobl sy'n byw ger yr arfordir, a'r rhai sy'n byw ar incwm isel.
Meddai Dr Sumina Azam, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Polisi ac Iechyd Rhyngwladol/Cyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant:
“Mae angen rhagor o weithredu ar frys ledled Cymru er mwyn addasu'r amgylcheddau y mae pobl yn byw, yn gweithio, yn chwarae ac yn dysgu ynddynt i ddiogelu iechyd a llesiant yn wyneb newid hinsawdd.
Meddai Liz Green o'r Adran Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, yng Nghanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Mae gan sefydliadau a chymunedau yng Nghymru rôl bwysig i'w chwarae wrth greu Cymru gydnerth a diogelu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr. Drwy weithio gyda'n gilydd, a sicrhau bod ymaddasu wedi'i gynnwys yng nghynlluniau a pholisïau nawr, gallwn wneud gwahaniaeth i iechyd a llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol”.
Mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen i weithredu ar ymaddasu fynd y tu hwnt i ymatebion i gyfnodau unigol o dywydd eithafol (a fydd yn digwydd yn amlach). Mae angen atebion hirdymor, ataliol sy'n addasu polisi, tai, yr amgylchedd byw, ac ymddygiad unigol, gyda'r nod o ddiogelu ansawdd bywyd a llesiant i bawb. Mae angen cryfhau cyfranogiad cyhoeddus mewn polisi a chynllunio ar gyfer anghenion y dyfodol, ac mae angen i ni adeiladu mwy o gefnogaeth a chymorth i gymunedau er mwyn iddynt baratoi ar gyfer llifogydd, erydu arfordirol, ac effeithiau amgylcheddol eraill, ac ymateb i'r rhain ac adfer ohonynt.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:
“Rydym yn gwybod nad yw newid hinsawdd yn rhywbeth a fydd yn digwydd yn y dyfodol – mae'n digwydd nawr ac rydym yn gallu teimlo ei effeithiau yng Nghymru heddiw.
“Mae hwn yn ddarn o waith pwysig gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Gallwn i gyd gymryd camau bach i fynd i'r afael ag effaith newid hinsawdd ond, yn y pen draw, mae angen i bawb – y llywodraeth, y sector cyhoeddus, busnesau a'r cyhoedd - weithio gyda'i gilydd i wneud Cymru yn fwy cydnerth o ran yr hinsawdd sy'n newid.
“Rwy'n annog cydweithwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a'r sector cyhoeddus ehangach i ddefnyddio'r asesiad o'r effaith ar iechyd hwn i lywio a gwella eu dull o gynllunio ar gyfer ymaddasu.”
Mae gan bawb yng Nghymru rôl bwysig i'w chwarae o ran lleihau allyriadau carbon – a gall hyn sicrhau manteision mawr i'n hiechyd gan gynnwys ansawdd aer, cynyddu gweithgarwch corfforol drwy deithio llesol, meithrin cydnerthedd cymunedol, cynyddu mynediad at amgylcheddau naturiol bioamrywiol, a bwyta deiet iach, cynaliadwy.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gwneud mynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus yn flaenoriaeth strategol hirdymor a byddwn yn gwella ein gwaith gyda phartneriaid i ymateb a gweithredu er mwyn lleihau effeithiau newid hinsawdd ar iechyd cyhoeddus. Dysgwch ragor am ein blaenoriaethau strategol YMA.