Mae Calan Gaeaf 2020 yn mynd i fod yn wahanol. Fel yr ydym wedi'i wneud gyda llawer o ddigwyddiadau drwy'r flwyddyn, diolch eto i'r rheini ohonoch sy'n amddiffyn eich hun ac eraill rhag y risg o ddal neu ledaenu Coronafeirws.
Mae pobl ar draws Cymru yn parhau i addasu i'r sefyllfa sy'n newid a gall dathliadau tymhorol fel Calan Gaeaf helpu i hybu morâl a'n hannog i gysylltu'n ddiogel â ffrindiau, teulu ac anwyliaid.
Meddai Dr Chris Williams, Cyfarwyddwr Digwyddiad Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Nid yw Coronafeirws wedi diflannu ac unwaith eto rydym yn diolch i chi am y cydnerthedd rydych wedi'i ddangos wrth wneud eich rhan i leihau eich siawns o ddal neu ledaenu'r feirws.
”Mae Calan Gaeaf yn adeg boblogaidd o'r flwyddyn ar gyfer partïon a dod at ein gilydd gyda theulu a ffrindiau. Yn union fel yr ydym wedi'i wneud ers dechrau'r cyfyngiadau symud, bydd llawer ohonom yn dod o hyd i ffyrdd newydd a chreadigol o fynd i ysbryd yr achlysur. Bydd hyn yn cynnwys meddwl am sut rydym yn ailddychmygu losin neu lanast gartref, dod o hyd i ffyrdd newydd o fwynhau Calan Gaeaf nad yw'n cynnwys cyfarfod yn gorfforol ag eraill, a chynnal mesurau i gadw pellter cymdeithasol os oes rhaid i chi adael y tŷ am reswm hanfodol.
“Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i amddiffyn ein hunain a'r bobl rydym yn poeni amdanynt, felly gofynnwn eto eich bod yn cadw hyn mewn cof wrth gynllunio eich gweithgareddau.”
Dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer y cyfnod atal byr.
Cofiwch na chaniateir cynnull yn gorfforol ar gyfer partïon Calan Gaeaf naill ai yn eich cartref neu mewn lleoliad arall wrth i ni geisio atal y feirws rhag lledaenu.
Peidiwch â chymryd rhan mewn gweithgareddau losin neu lanast traddodiadol sy'n gallu rhoi eich hun ac eraill mewn perygl ac sy'n torri'r canllawiau presennol a allai arwain at ddirwy.
Cynlluniwch weithgareddau diogel, hwyl y gellir eu gwneud yng nghysur eich cartref eich hun a dim ond gydag aelodau o'ch cartref. Defnyddiwch ddulliau eraill o gymdeithasu ar-lein neu dros y ffôn lle na allwch fod yng nghwmni eraill yn gorfforol.
Helpwch i amddiffyn eich hun a'r GIG drwy yfed yn gyfrifol os yw eich cynlluniau'n cynnwys alcohol ac osgoi unrhyw weithgareddau a allai achosi mwy o risg o anaf y gellir ei osgoi.
Ystyriwch anghenion eraill o'ch cwmpas a'r effaith y gallai eich gweithredoedd chi ei chael arnynt.