Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnal arolwg ffôn cenedlaethol i ddeall barn pobl ar newid hinsawdd ac iechyd yng Nghymru.
Mae DJS Research Ltd yn cynnal yr arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor. Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os byddwch yn cymryd ran, bydd yr wybodaeth a roddwch yn anhysbys ac yn gyfrinachol.
Diolch am eich diddordeb yn yr arolwg. Am ymholiadau, cysylltwch â: arolwghinsawdd@wales.nhs.uk