Cyhoeddwyd: 21 Ionawr 2022
Mae Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor yn cynnal arolwg cenedlaethol ar gynhesrwydd tai ac iechyd a llesiant yng Nghymru. Mae M.E.L Research yn cynnal yr arolwg ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Bangor.
Ar hyn o bryd, nid oes llawer o wybodaeth ar gael am dymereddau dan do aelwydydd yng Nghymru, sut mae pobl yn cynhesu eu cartrefi ac yn aros yn gynnes yn ystod y gaeaf, a'r effaith ar gysur, iechyd a llesiant pobl. Mae'r wybodaeth hon yn bwysig i'n helpu i ddeall pa dymereddau isaf y dylid eu hargymell yng Nghymru i gadw pobl yn gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi.
Rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2022, bydd M.E.L Research yn cysylltu ag aelwydydd yng Nghymru, a bydd preswylwyr 18 oed neu hŷn yn cael eu gwahodd i gymryd rhan dros y ffôn neu ar-lein. Gall cyfranogwyr gymryd rhan yn y Gymraeg neu'r Saesneg.
Na. Mae'r arolwg yn gwbl wirfoddol – chi sy'n penderfynu a ydych chi'n cymryd rhan. Mae croeso i chi stopio’r arolwg ar unrhyw adeg, a does dim rhaid i chi roi rheswm. Ni fydd penderfynu stopio yn effeithio ar eich hawliau, unrhyw driniaeth iechyd yr ydych yn ei derbyn ar hyn o bryd neu yn y dyfodol, na’r gwasanaethau rydych yn eu derbyn.
Bydd pob ateb yn cael ei gadw'n gwbl gyfrinachol ac yn ddienw. Gan fod yr holiaduron yn ddienw a chan na fyddwn yn gallu adnabod eich atebion personol ar ôl eu cwblhau, ni fydd modd tynnu'n ôl o'r astudiaeth unwaith y bydd yr holiadur wedi'i gyflwyno. Gofynnir i chi a hoffech gymryd rhan mewn gwaith dilynol. Bydd manylion cyswllt pobl sy’n dewis cymryd rhan mewn astudiaethau yn y dyfodol yn cael eu cadw’n ddiogel, ac ar wahân i'w hatebion i'r holiadur hwn.
Ni fydd eich atebion yn cael eu rhannu gydag unrhyw un y tu hwnt i'r tîm ymchwil, ONI BAI eich bod yn datgelu bwriad i niweidio eich hun neu rywun arall, gwybodaeth sy'n nodi y gall rhywun achosi risg ddifrifol o niwed i chi neu'r cyhoedd, neu'r bwriad i gyflawni gweithred derfysgaeth. Byddem yn trafod hyn gyda chi cyn dweud wrth unrhyw un arall.
Mae'r astudiaeth hon wedi'i hadolygu gan Bwyllgor Moeseg Academaidd Gwyddorau Gofal Iechyd a Meddygol Prifysgol Bangor. Mae Pwyllgor Moeseg Ymchwil yn grŵp o bobl annibynnol sy'n adolygu ymchwil er mwyn diogelu urddas, hawliau, diogelwch a lles cyfranogwyr ac ymchwilwyr. Mae'r astudiaeth hefyd wedi'i hadolygu gan Swyddfa Ymchwil a Datblygu Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd ein hymchwilwyr hyfforddedig dros y ffôn yn eich trin yn deg a chyda pharch. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw bryderon am yr astudiaeth, gan gynnwys y ffordd y cysylltwyd â chi neu’r ffordd y cawsoch eich trin, cysylltwch â M.E.L. Research:
Ffôn (Rhadffôn): 0800 073 0348
E-bost: phw.survey@melresearch.co.uk
Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch ag Iechyd Cyhoeddus Cymru yn:
E-bost: gig.gwres@wales.nhs.uk
Taflen wybodaeth i gyfranogwyr — Mae'n darparu gwybodaeth am yr astudiaeth a beth fydd yn digwydd os byddwch yn penderfynu cymryd rhan.
I weld neu lawrlwytho copi o'n taflen wybodaeth i gyfranogwyr, cliciwch am:
Taflen ôl-drafodaeth — Taflen ddiolch sy'n cynnwys gwybodaeth am wasanaethau efallai yr hoffech eu defnyddio, megis Nyth, National Energy Action a llinellau cymorth cenedlaethol eraill.
I weld neu lawrlwytho copi o'n taflen ôl-drafodaeth, cliciwch yma