Neidio i'r prif gynnwy

Arbenigwyr iechyd yn rhybuddio am beryglon prynu tawelyddion 'presgripsiwn' wrth i amnewidion barhau i godi

Cyhoeddwyd: 8 Gorffennaf 2021

Mae prosiect WEDINOS wedi gweld cynnydd sylweddol mewn meddyginiaethau ‘presgripsiwn’ nad ydynt wedi'u rhagnodi sy'n cael eu cyflwyno i’r gwasanaeth profi cyffuriau yng Nghymru. 

Mae prynu bensodiasepinau nad ydynt wedi’u rhagnodi ac nad ydynt yn cael eu rheoli, a geir yn gyffredinol drwy farchnad ar-lein, yn bryder cynyddol. 

Mae adroddiad blynyddol WEDINOS ar gyfer 2020-21, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, hefyd yn nodi gostyngiad o ran y sylweddau a gyflwynwyd gan gynnwys cocên ac ysgogyddion eraill,  oherwydd cau lleoliadau economi nos yn sgil cyfyngiadau’r pandemig, medd arbenigwyr.  Er hynny, nodwyd cynnydd yn yr ysgogyddion a gyflwynwyd ar adegau pan gafodd y cyfyngiadau symud eu llacio dros y flwyddyn.  

Mae bensodiasepinau fel Diazepam, yn gyffuriau tawelu cyffredin sy'n aml yn cael eu rhagnodi ar gyfer gorbryder ac anhunedd.  Gall bensodiasepinau hefyd fod yn hygyrch ac ar gael i’w prynu ar-lein neu drwy lwybrau nad ydynt wedi'u rhagnodi. Mae tystiolaeth, drwy ganlyniadau dadansoddiad WEDINOS, o lefelau uchel o amnewid bensodiasepinau, am bensodiasepinau neu sylweddau eraill, gan achosi risg bosibl i iechyd y cyhoedd.  

Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, bensodiasepinau oedd y dosbarth mwyaf cyffredin a nodwyd o sylweddau seicoweithredol sy’n addasu'r meddwl ac eleni cafodd Diazepam ei nodi mewn 13 y cant o’r holl samplau cymunedol a gafwyd, a Flubromazolam oedd yr ail sylwedd mwyaf cyffredin a nodwyd, er ei fod wedi’i nodi unwaith yn unig fel y pryniad a fwriadwyd. 

Meddai Josie Smith, Pennaeth Camddefnyddio Sylweddau Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Rhaglen WEDINOS:

“Er bod y flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn eithriadol mewn cynifer o ffyrdd, mae gwaith WEDINOS wedi parhau'n ddi-dor. Mae 2020-21 wedi gweld cynnydd yng nghyfran y samplau bensodiasepin ac, oherwydd bod tafarndai, bariau a chlybiau nos wedi'u cau fel rhan o gyfyngiadau pandemig COVID-19, gostyngiad cymharol o ran cyflwyno samplau cymunedol o gyffuriau gan gynnwys cocên ac ysgogyddion eraill  

“Fodd bynnag, rydym yn fwyfwy ymwybodol o’r nifer uchel o amnewidion o fewn bensodiasepinau.  Gall y cynhyrchion hyn gynnwys symiau amrywiol o gynhwysyn gweithredol, cyffuriau a amnewidiwyd gyda gwahanol amseroedd dechrau a pharhad, gwahanol gryfderau neu gyfuniadau o sylweddau sy'n ei gwneud yn anodd i unigolion wybod beth y maent yn ei gymryd ac i leihau’r niwed posibl sy’n gysylltiedig â'r defnydd.  Mae hwn yn fygythiad gwirioneddol i iechyd unigolyn gan gynnwys risgiau gorddos a datblygu dibyniaeth.   

”Byddem yn annog unrhyw un sydd â phryderon ynghylch defnyddio bensodiasepinau heb eu rhagnodi i geisio gwybodaeth a chymorth” 

Er gwaethaf y diffyg cyflwyniadau o leoliadau cymdeithasol a chlybiau nos yn sgil cyfyngiadau COVID, gwelwyd cynnydd o 28% yn nifer y samplau a gyflwynwyd i WEDINOS i’w profi o leoliadau cymunedol yn 2020-21 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn paratoi adroddiadau a gwybodaeth i ddylanwadu ar bolisi cenedlaethol a rhyngwladol i sicrhau ei fod yn seiliedig ar y dystiolaeth orau i ddiogelu a gwella iechyd. 

Gellir lawrlwytho'r adroddiad llawn yn:

Gall y rhai sy'n ceisio cymorth ar gyfer pryderon sy'n ymwneud â chyffuriau neu alcohol gysylltu â Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru ar radffon 0808 808 2234, drwy decstio DAN i: 81066 neu drwy fynd i dan247.org.uk

Ceir rhagor o wybodaeth am WEDINOS yn www.wedinos.org

Mae rhagor o wybodaeth am gamddefnyddio sylweddau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gael yn http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/page/72997