Neidio i'r prif gynnwy

Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd i arbenigwyr Iechyd Cyhoeddus Sian Griffiths a Fliss Bennee

Cyhoeddwyd: 4 Ionawr 2023

Mae'r Athro Sian Griffiths OBE, Cyfarwyddwyr Anweithredol Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi derbyn CBE ac mae Fliss Bennee, Pennaeth Data yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi derbyn OBE yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd. 

Dyfarnwyd anrhydedd Sian (Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig - CBE) am wasanaethau gwirfoddol ac elusennol, yn enwedig yn ystod Covid-19.

Mae Sian yn gyn-lywydd Cyfadran Iechyd Cyhoeddus y DU ac mae'n arbenigwr ar iechyd cyhoeddus byd-eang. Yn ystod Covid roedd yn weithgar ar gyfryngau lleol a chenedlaethol yn ogystal â gwirfoddoli yn ei phractis a'i chymuned leol.

Ochr yn ochr â bod yn gyfarwyddwr anweithredol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n ddirprwy gadeirydd GambleAware, cyn-gadeirydd Pwyllgor Iechyd Byd-eang Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Athro gwadd yng Ngholeg Imperial Llundain.

Cyd-gadeiriodd Ymchwiliad SARS 2003 ar gyfer Llywodraeth Hong Kong ac mae'n parhau'n Athro Emeritws ym Mhrifysgol Tsieina Hong Kong.

Gan longyfarch Sian am dderbyn CBE, dywedodd Jan Williams, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith ac ymrwymiad anhygoel Sian wedi'i gydnabod fel hyn.  Mae wedi bod yn aelod allweddol o'n bwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad byd-eang i'n gwaith yng Nghymru. Mae Sian yn weithiwr proffesiynol eithriadol o ymroddedig ac yn gydweithiwr uchel ei pharch sy'n rhan hanfodol o deulu Iechyd Cyhoeddus Cymru.

“Ynghyd â'r holl staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn anfon ein llongyfarchiadau twymgalon ar y dyfarniad haeddiannol iawn hwn am ei chyfraniad at iechyd cyhoeddus ar draws y DU ac yn rhyngwladol. Mae ei phroffesiynoldeb a'i hymrwymiad yn rhagorol, ac rydym wrth ein bodd bod yr ymroddiad anhunanol wedi'i gydnabod yn y ffordd arbennig hon.”

Mae anrhydedd Fliss Bennee (Swyddog Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig - OBE) wedi'i ddyfarnu am ei rôl rhwng mis Mawrth 2020 a mis Gorffennaf 2022 - pan oedd yn Gyd-gadeirydd y Grŵp Cynghori Technegol, gan ddarparu cyngor gwyddonol i Lywodraeth Cymru yn ystod pandemig y coronafeirws, ac aelod o SAGE, Grŵp Cyngor Gwyddonol ar Argyfyngau'r DU, wrth weithio i Lywodraeth Cymru. 
Daw'r anrhydedd 100 mlynedd yn union ar ôl i hen dad-cu Fliss dderbyn yr un anrhydedd gan y Brenin Siôr V.

Gan longyfarch Fliss ar ei hanrhydedd, meddai Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru Tracey Cooper:

“Rwyf wrth fy modd bod gwaith ac ymrwymiad anhygoel Fliss wedi'i gydnabod fel hyn.  Mae wedi bod yn aelod allweddol o'n tîm Iechyd Cyhoeddus Cymru, ers ymuno â ni y llynedd, ac mae wedi parhau i fod ar flaen y gad o ran yr ymateb iechyd cyhoeddus fel yr oedd yn ystod pandemig y Coronafeirws. Mae Fliss yn weithiwr proffesiynol hynod ymroddedig ac yn gydweithiwr gwych sydd wedi dod yn wyneb a llais adnabyddus yn nheulu Iechyd Cyhoeddus Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

“Ynghyd â'r holl staff yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn anfon ein llongyfarchiadau cynhesaf ar yr anrhydedd haeddiannol iawn hwn. Rydym yn hynod falch o'r anrhydedd hwn i Fliss a'r gydnabyddiaeth a ddaw yn ei sgil i waith iechyd cyhoeddus yng Nghymru.”

Ymunodd Fliss ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Pennaeth Data ym mis Mehefin 2022, ar ôl gweithio'n flaenorol i Lywodraeth Cymru fel cyd-gadeirydd y Grŵp Cyngor Technegol.

Ar ôl symud o'r sector ariannol, mae Fliss wedi bod ym maes gwasanaeth cyhoeddus ers dros 15 mlynedd, gan ganolbwyntio ar y trydydd sector, data digidol a thechnoleg, gwyddoniaeth a pheirianneg. Cyn gweithio i Lywodraeth Cymru, cafodd Fliss rolau yn yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Swyddfa'r Cabinet, Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth, y Swyddfa Gartref a'r Comisiwn Elusennau. 

Mae'n byw yng Nghymru gyda'i gŵr, Alexis James, a dau o blant. Mae Fliss hefyd yn llywodraethwr ysgol ac yn ymddiriedolwr gweithgar gyda'r Sgowtiaid.