Neidio i'r prif gynnwy

Annog trigolion Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn i fod yn wyliadwrus yn dilyn clwstwr o amrywiolyn sy'n peri pryder

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynghori pobl sy'n byw yn ardaloedd Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yng Ngogledd Cymru i fod yn effro i symptomau Coronafeirws.

Daw'r alwad ar ôl i glwstwr o 18 o achosion a gadarnhawyd neu a ragdybiwyd o'r amrywiolyn sy’n peri pryder a nodwyd gyntaf yn India, VOC-21APR-02, gael eu canfod yn yr ardal.  Mae'r achosion i gyd yn gysylltiedig, ac nid oes achos llawn wedi'i ddatgan ar hyn o bryd.

Mae uned brofi symudol ar gael, ac mae aelodau o'r cyhoedd sy'n byw yn yr ardaloedd hyn yn cael eu hannog i ddod i gael prawf.

Mae pobl sydd â symptomau Coronafeirws, waeth pa mor ysgafn, yn cael eu gwahodd i gael prawf PCR am ddim mewn uned brofi symudol yng Nghanolfan Fusnes Conwy, Lôn y Gyffordd, Cyffordd Llandudno, LL31 9XX.

Yr oriau agor fydd rhwng 8am ac 1pm a rhwng 2pm ac 8pm bob dydd.   Gellir cerdded i mewn i'r safle a gyrru drwodd, ac nid oes angen apwyntiad.  Bydd ar gael o ddydd Sadwrn 29 Mai hyd at a chan gynnwys dydd Sul 6 Mehefin.

Fel arall, gall aelodau o'r cyhoedd gael mynediad at y cyfleuster profi gyrru drwodd presennol ar Builder Street yn Llandudno, sydd ar agor rhwng 8am ac 1pm saith diwrnod yr wythnos.   Er mwyn cael mynediad i'r safle hwn, bydd angen i bobl drefnu apwyntiad drwy fynd i wefan Llywodraeth Cymru neu drwy ffonio 119. 

Mae'r safle hefyd ar agor ar gyfer pecynnau hunanbrofi llif ochrol rhwng 2pm ac 8pm bob dydd.

Gall trigolion amddiffyn eu hunain ac eraill rhag Coronafeirws drwy gadw o leiaf dau fetr i ffwrdd oddi wrth bawb arall, golchi eu dwylo'n rheolaidd, a thrwy wisgo gorchudd wyneb lle bo angen.  Dylent fanteisio ar y brechlyn pan fydd yn cael ei gynnig iddynt, a hunanynysu a chael prawf os ydyn nhw neu unrhyw un arall yn eu haelwyd yn datblygu symptomau.

Meddai Richard Firth, Ymgynghorydd mewn Diogelu Iechyd ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Chadeirydd y Tîm Rheoli Digwyddiad Amlasiantaeth:

“Mae ymddangosiad yr amrywiolyn trosglwyddadwy hwn o'r Coronafeirws yn ardaloedd Cyffordd Llandudno, Llandudno a Bae Penrhyn yn ein hatgoffa na ddylem fod yn hunanfodlon, hyd yn oed wrth i gyfraddau'r feirws barhau'n isel ledled Cymru.

“Byddwch yn wyliadwrus am symptomau Coronafeirws, a mynnwch brawf nawr.  Os bydd swyddog olrhain cysylltiadau yn cysylltu â chi, helpwch i amddiffyn eich cymuned drwy fod yn onest gyda nhw am eich symudiadaua chydymffurfio â'u cyfarwyddiadau.”

“Gorau po gyntaf y byddwn yn gweithredu.  Dewch i gael eich profi, hyd yn oed os yw eich symptomau'n ysgafn.  Po fwyaf o bobl â symptomau sy'n dod ymlaen, mwyaf fydd yr achosion y byddwn yn eu canfod.  Yna gall mwy o bobl gael eu hatgyfeirio i'r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu, gan alluogi'r swyddogion olrhain cysylltiadau i weithredu er mwyn atal lledaeniad yr amrywiolyn hwn yn yr ardal.”

Yn ogystal â thri symptom mwyaf cyffredin Coronafeirws - twymyn, peswch cyson newydd, neu golli/newid o ran blas ac arogl - mae pobl bellach yn gallu cael prawf os oes ganddynt unrhyw un o restr newydd o symptomau eraill hefyd.

Dyma'r rhain: Symptomau sy'n debyg i symptomau'r ffliw, nad ydynt yn cael eu hachosi gan gyflwr hysbys fel clefyd y gwair, gan gynnwys unrhyw un neu'r cyfan o'r canlynol: myalgia (poen yn y cyhyrau); blinder gormodol; cur pen parhaus; trwyn yn rhedeg neu drwyn wedi’i rwystro; tisian parhaus; dolur gwddf a/neu grygni, diffyg anadl neu wichian ar y frest; unrhyw symptomau newydd neu newid mewn symptomau yn dilyn prawf negyddol blaenorol.

Y dystiolaeth bresennol yw bod amrywiolyn VOC-21APR-02 o leiaf mor hawdd i'w ddal â'r amrywiolyn Caint amlycaf, ond gall fod ychydig yn fwy trosglwyddadwy.  Mae brechlynnau Pfizer ac AstraZeneca yn effeithiol yn erbyn yr amrywiolynnau a nodwyd gyntaf yn India ar ôl dau ddos.

Yng Nghymru, cyfanswm nifer yr achosion o'r amrywiolyn sy’n peri pryder VOC-21APR-02 yw 58 ar hyn o bryd, er y disgwylir i'r nifer godi.  Nodir nifer yr achosion o'r amrywiolyn yng Nghymru ar ddangosfwrdd gwyliadwriaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru am 12pm ar ddydd Mawrth a dydd Iau.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hefyd yn cyflwyno sesiynau brechu i bobl dros 40 oed dros y penwythnos.  Bydd Venue Cymru yn cynnal sesiynau galw heibio i gael dos cyntaf o AZ heno (nos Wener 28 Mai) tan 7.30, yna eto ddydd Sul 8.30am –  12.30 pm ac 1.30 - 7.30pm, a dydd Llun gŵyl y banc 8.30am –  12.30 pm ac 1.30 - 7.30pm.