Cyhoeddwyd: 6 Chwefror 2025
Mae merched beichiog yng Nghymru yn cael eu hatgoffa i osgoi dod i gysylltiad ag anifeiliaid sy’n rhoi genedigaeth, sydd wedi rhoi genedigaeth yn ddiweddar, neu sydd wedi erthylu. Mae’r cyngor hwn, sydd hefyd yn berthnasol i ferched nad ydynt yn gwybod eto eu bod yn feichiog, yn arbennig o berthnasol yn ystod y tymor ŵyna yng Nghymru.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi’r canllawiau hyn oherwydd y risgiau a achosir gan heintiau a all fod yn bresennol mewn rhai mamogiaid. Gallai’r risgiau hyn arwain at ganlyniadau difrifol i ferched beichiog
Gall merched beichiog a’r rhai sydd â systemau imiwnedd gwan, megis unigolion sy’n cael cemotherapi neu rai sydd â chyflyrau meddygol penodol, sy’n dod i gysylltiad agos â defaid yn ystod y tymor ŵyna fod mewn perygl. Gall heintiau fel erthyliad ensöotig (EAE), twymyn Q, Salmonela, a Campylobacterau gael eu trosglwyddo, yn ogystal â milheintiau eraill gan gynnwys Tocsoplasma a Listeria.
Dywedodd Dr Christopher Williams, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Ganolfan Wyliadwriaeth ar gyfer Clefydau Trosglwyddadwy:
“Er ei bod yn anghyffredin i gyswllt ag anifeiliaid effeithio ar feichiogrwydd, gall y canlyniadau fod yn ddifrifol.
“Mae’n bwysig bod merched beichiog a’r rhai â systemau imiwnedd gwan yn ymwybodol o’r risgiau yn ystod y tymor hwn a’u bod yn cymryd rhagofalon i amddiffyn eu hunain.
"Y ffordd orau o leihau'r risg hwn yw osgoi cysylltiad agos â mamogiaid sy'n ŵyna ac anifeiliaid eraill sy'n rhoi genedigaeth."
I leihau'r risg o haint, dylai merched beichiog:
Mae gan ffermwyr a cheidwaid da byw gyfrifoldeb i leihau risgiau i ferched beichiog, gan gynnwys aelodau o’r teulu, ymwelwyr, a staff proffesiynol. Dylai merched beichiog ac unigolion sydd ag imiwnedd gwan osgoi ymwneud yn uniongyrchol â gofalu am anifeiliaid sy’n tynnu at ddiwedd eu beichiogrwydd.
Mae ffermwyr yn cael eu cynghori i ymgynghori â milfeddyg os bydd mamog yn erthylu. Efallai bydd angen archwilio a phrofi'r ffetws a erthylwyd a'r brych yn un o ganolfannau archwilio milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) i ganfod yr achos.
Am resymau hylendid a bioddiogelwch dylai ffermwyr sicrhau eu bod yn cael gwared â phob brych yn brydlon ac yn ddiogel, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Gwybodaeth ddefnyddiol:
Risgiau haint i famau newydd a mamau beichiog yn y gweithle (hse.gov.uk) (Saesneg yn unig)
HSE ac ACDP: Mamau newydd a mamau beichiog: Risgiau haint i famau newydd a mamau beichiog yn y gweithle Canllaw i gyflogwyr (hse.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Beichiogrwydd: cyngor ar gyswllt ag anifeiliaid sy'n rhoi genedigaeth - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Mae milheintiau yn glefydau y gellir eu trosglwyddo o anifeiliaid i bobl. Milheintiau (hse.gov.uk) (Saesneg yn unig)
ACDP Chlamydia abortus: Chlamydia abortus: epidemioleg, trosglwyddo ac atal - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Tocsoplasmosis: Tocsoplasmosis: diagnosis, epidemioleg ac atal - GOV.UK (www.gov.uk) (Saesneg yn unig)
Twymyn Q: Heintiau twymyn Q mewn pobl: ffynonellau, trosglwyddo, triniaeth - GOV.UK (www.gov.uk)