Neidio i'r prif gynnwy

Amddifadedd a diagnosis cam hwyr yn parhau i fod yn amlwg iawn mewn data ar ganser y geg

Cyhoeddwyd: 4 Tachwedd 2025

Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dangos bod amddifadedd yn parhau i gyfrannu’n sylweddol at nifer yr achosion o ganser y geg a’r nifer sy’n ei oroesi ledled Cymru. 

Mae'r dadansoddiad o Nifer yr Achosion o Ganser y Geg yng Nghymru 2025 yn datgelu bod pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn fwy tebygol o gael diagnosis o ganser y geg, ac yn llai tebygol o oroesi pum mlynedd ar ôl cael diagnosis, o'u cymharu â'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd mwy cyfoethog. 

Mae diagnosisau cam hwyr yn parhau i fod yn un o'r heriau mwyaf dybryd. Canfyddir y rhan fwyaf o achosion yng Nghymru yng ngham tri neu bedwar, sy'n golygu bod y driniaeth yn fwy cymhleth a bod y canlyniadau'n aml yn waeth. 

Dywedodd yr Athro Paul Brocklehurst, Ymgynghorydd Iechyd Deintyddol y Cyhoedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae canser y geg yn un o’r ychydig ganserau lle gallwn ni weld neu deimlo’r arwyddion cynnar ein hunain yn aml, ond mae gormod o bobl yn aros yn rhy hir cyn ceisio cyngor proffesiynol. Rydym yn annog unrhyw un sy'n sylwi ar rywbeth anarferol yn eu ceg, fel wlser na fydd yn gwella, man coch neu wyn, neu lwmp, i weld ei ddeintydd neu feddyg teulu cyn gynted â phosibl.” 

Mae ysmygu ac yfed yn parhau i fod yn ddau o'r ffactorau risg mwyaf y gellir eu hatal o ran canser y geg, ynghyd â haint y feirws papiloma dynol (HPV) mewn rhai achosion. 

Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod canserau’r geg yn parhau i effeithio'n anghymesur ar ddynion. Y gymhareb yw y rhoddir diagnosis i ddau ddyn i bob menyw.  

Mae canser y geg yn effeithio ar y tafod a'r oroffaryncs gan mwyaf o hyd, ac mae cyfraddau goroesi pum mlynedd y rhai sydd wedi cael diagnosis yn ystod camau datblygedig yn parhau i fod islaw hanner cant y cant. 

Mae'r adroddiad yn pwysleisio pwysigrwydd atal canser y geg, ei ganfod yn gynnar, a dewisiadau ffordd o fyw tuag at leihau’r risg. Mae Sefydliad Iechyd y Geg yn argymell dilyn nifer o gamau i leihau'r risg o ganser y geg, gan gynnwys: 

  • Rhoi'r gorau i ysmygu ac osgoi defnyddio pob cynnyrch tybaco 

  • Yfed alcohol o fewn y terfynau a argymhellir 

  • Bwyta diet iach sy'n llawn ffrwythau a llysiau 

  • Ymweld â'ch deintydd yn rheolaidd i gael archwiliadau 

  • Rhoi eli haul ar eich gwefusau pan fyddwch chi yn yr awyr agored 

Ychwanegodd yr Athro Brocklehurst:

“Er bod gwelliannau ymysg rhai grwpiau, mae gormod o bobl yn dal i gael diagnosis pan fydd y canser eisoes wedi datblygu’n sylweddol. Mae canfod canser yn gynnar yn achub bywydau a gall newidiadau syml fel rhoi’r gorau i ysmygu, lleihau faint o alcohol a yfir, a chael archwiliadau deintyddol rheolaidd leihau eich risg o gael canser yn sylweddol.” 

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pawb i fod yn ymwybodol o’u cegau yn ystod Mis Gweithredu ar Ganser y Geg ac i wirio eu cegau am unrhyw newidiadau yn rheolaidd.

 

ystod Mis Gweithredu ar Ganser y Geg ac i wirio eu cegau am unrhyw newidiadau yn rheolaidd.