Cyhoeddedig: 31 Gorffennaf 2023
Fel sefydliad iechyd y cyhoedd, rydym am i gynhwysiant fod yn rhan o bob agwedd ar y gwaith rydym yn ei gyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Mae ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol presennol – sy’n nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau – yn dod i ddiwedd ei gylch pedair blynedd.
Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cynnwys staff a rhanddeiliaid yn y gwaith o ddatblygu rhai amcanion drafft i fynd â ni rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2028.
Daeth chwe thema i'r amlwg o'r gweithdai. Sef:
Ein Gweithlu, Bwrdd a Phwyllgorau
Gwrando ar ein pobl a'u deall
Cyflog teg
Diwylliant ac arweinyddiaeth
Data a systemau
Mynediad i'n gwasanaethau a'n hamgylchedd
Rydym nawr yn lansio ymgynghoriad gyda’r cyhoedd am dri mis.
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 1 Tachwedd 2023.
Pan fydd yr holl ymatebion wedi'u derbyn, cânt eu hadolygu a'u datblygu'n amcanion terfynol. Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Mawrth 2024.
I gael rhagor o wybodaeth am ein Hamcanion Cydraddoldeb Strategol, cysylltwch â Sarah Brewer, Pennaeth Profiad Gweithwyr: Sarah.Brewer@wales.nhs.uk neu Amy Burgess, Rheolwr Ymgysylltu a Chydweithio: Amy.Burgess4@wales.nhs.uk