Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, ochr yn ochr ag amrywiaeth o bartneriaid, wedi agor sgwrs genedlaethol ar les meddwl. Nod rhaglen newydd Hapus yw ysbrydoli pobl yng Nghymru i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n amddiffyn a gwella lles meddwl.
Mae canfyddiadau o Arolwg Cenedlaethol diweddaraf Cymru (2022/23) yn dangos bod lles meddwl wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf, o sgôr cyfartalog o 51 ar gyfer oedolion yn 2018/19 i 48 yn 2022/23 (fel y’i mesurwyd gan Raddfa Lles Meddwl Warwick-Edinburgh). Mae Hapus yn darparu gwybodaeth ac adnoddau i helpu pobl i gymryd camau i wella eu lles meddwl, ac yn annog pobl i rannu’r hyn sy’n bwysig ar gyfer eu lles meddwl.
Mae lles meddwl yn ymwneud â sut rydym yn meddwl, yn teimlo ac yn ymdopi â bywyd ar adeg benodol. Gallwn ddweud bod gennym les meddwl da pan fyddwn yn “teimlo’n dda ac yn gweithredu’n dda”, pa bynnag ffordd y mae hynny’n edrych i ni fel unigolion. Mae’n cael ei ddylanwadu gan brofiadau trwy gydol ein bywydau, gan gynnwys y rhai o blentyndod cynnar, yn ogystal â’n perthnasoedd â theulu, ffrindiau, a phartneriaid. Mae hefyd yn cael ei ddylanwadu gan y cymunedau ehangach yr ydym yn rhan ohonynt, cyfleoedd i ddylanwadu ar bethau sy'n digwydd yn ein bywydau ein hunain, a chael ein hanghenion sylfaenol wedi'u diwallu.
Mae lles meddwl da yn rhan hanfodol o’n hiechyd da yn gyffredinol. Pan fyddwn yn teimlo'n dda ac yn gweithredu'n dda, rydym yn fwy tebygol o ofalu am ein hiechyd corfforol. Rydym hefyd yn llai tebygol o gymryd rhan mewn ymddygiad sy'n niweidio iechyd fel yfed gormod o alcohol neu ysmygu.
Cynlluniwyd rhaglen Hapus i gynyddu gwybodaeth poblogaeth Cymru am yr hyn y gallant ei wneud i amddiffyn neu wella eu lles meddwl eu hunain.
Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gydag amrywiaeth o bartneriaid sy’n cyflwyno gweithgareddau ac yn gofalu am leoedd a gofodau ledled Cymru a all gefnogi lles unigolion a chymunedol. Partneriaid strategol Iechyd Cyhoeddus Cymru ar raglen Hapus yw Cyfoeth Naturiol Cymru, Chwaraeon Cymru, Cadw, Cyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru, Tempo, y Sefydliad Iechyd Meddwl a Chonffederasiwn GIG Cymru.
Mae tystiolaeth yn dangos bod gwneud amser i wneud pethau fel bod yn greadigol, treulio amser yn cysylltu â natur, bod yn gorfforol egnïol a chysylltu â ffrindiau y gellir ymddiried ynddynt yn amddiffyn ac yn gwella lles meddwl.
Dywedodd Emily van de Venter, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Rydym yn gyffrous iawn i agor sgwrs genedlaethol Hapus ar les meddwl yng Nghymru. Mae lles meddwl yn bwysig ynddo'i hun ac oherwydd ei fod yn dylanwadu ar ein hiechyd cyffredinol. Rydym yn annog pobl yng Nghymru i flaenoriaethu eu lles meddwl ac i rannu’r hyn sy’n eu helpu i deimlo’n dda a gweithredu’n dda.
“Mae rhaglen Hapus yn gyfle i Iechyd Cyhoeddus Cymru a phartneriaid sy’n gweithredu yn y gofod hwn gydweithio a gwrando ar adborth gan y gymuned ehangach ar yr hyn sy’n bwysig i’w lles meddwl. Rydym hefyd yn annog sefydliadau sydd eisoes yn gweithio yng Nghymru i gefnogi lles unigolion a chymunedol i gofrestru ac ymuno â rhwydwaith o Gefnogwyr Hapus i helpu i ledaenu ein neges.”
Mae rhagor o wybodaeth am raglen Hapus ar gael yma.