Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad yn amlygu'r heriau a wynebir gan ofalwyr di-dâl yn ystod y pandemig

Mae adroddiad newydd gan Brifysgol Caerdydd, a ariannwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn amlygu'r heriau ychwanegol y mae gofalwyr di-dâl wedi'u hwynebu yn ystod pandemig y Coronafeirws.

Meddai awdur arweiniol yr adroddiad, Dr Dan Burrows, Darlithydd mewn Gwaith Cymdeithasol yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (SOCSI) Prifysgol Caerdydd:

“Gofalwyr di-dâl yw asgwrn cefn y system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

“Yn ystod pandemig Covid-19, mae cyfrifoldebau gofalwyr di-dâl wedi cynyddu'n sylweddol. Mae mwy o ofalwyr di-dâl nag erioed o'r blaen, ac mae'r rhan fwyaf o'r rhai a oedd yn darparu gofal di-dâl cyn y pandemig bellach yn treulio mwy o amser ar ddarparu gofal i berson arall. Myfyriodd y gofalwyr a gymerodd ran yn ein hymchwil ar yr effaith sylweddol ar eu hiechyd meddwl, gan amlygu'r angen am gamau adferol y bydd eu hangen ar y rhai sy'n cyrraedd pwynt argyfwng.”

Ychwanegodd cyd-awdur yr adroddiad Dr Jen Lyttleton-Smith, Darlithydd mewn Addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd:  

“Er gwaethaf y cyfraniadau hanfodol a wnânt o ddydd i ddydd, dywedodd y gofalwyr di-dâl a holwyd gennym nad oeddent yn cael eu cydnabod yn dda mewn trafodaethau cyhoeddus am iechyd a gofal cymdeithasol ac maent yn teimlo eu bod wedi cael eu hanwybyddu yn ystod y pandemig, yn wahanol i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, y dywedasant fod eu hymdrechion wedi cael mwy o gydnabyddiaeth. Cafodd yr ymdeimlad hwn o anghyfiawnder ei ddwysáu gan yr aberth eithriadol y mae llawer o ofalwyr di-dâl wedi'i wneud ar ran y person sy'n derbyn gofal.”

Mae canfyddiadau allweddol eraill yn yr adroddiad yn cynnwys:

  • Mae llawer o ofalwyr nad ydynt yn cydnabod eu hunaniaeth fel gofalwyr hyd nes iddynt gyrraedd argyfwng a cheisio cymorth gan wasanaethau iechyd neu ofal cymdeithasol.
  • Nododd rhai gofalwyr fod pandemig y Coronafeirws, a'r mesurau rheoli a osodwyd mewn ymateb iddo, wedi eu hysgogi i dreulio mwy o amser yn ymlacio gyda'r person sy'n derbyn gofal, a oedd yn fuddiol i'w perthynas ac a oedd wedi eu hatgoffa o bwysigrwydd adegau o fwynhad a rennir. 
  • I eraill, fodd bynnag, roedd colli amser i ffwrdd o'r person sy'n derbyn gofal, gofod personol a gweithgareddau i wella eu llesiant eu hunain (e.e. cau campfeydd) wedi arwain at fwy o deimladau o densiwn a rhwystredigaeth a allai gael effaith hirdymor ar gynaliadwyedd eu rôl gofalu.


Cafodd yr adroddiad “Lleisiau Gofalwyr yn ystod Pandemig COVID-19: Negeseuon ar gyfer dyfodol gofalu di-dâl yng Nghymru” ei gynnal a'i lunio gan Brifysgol Caerdydd, a'i ariannu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

Meddai Dr Richard Kyle, Dirprwy Bennaeth Ymchwil a Gwerthuso, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae deall effaith pandemig COVID-19 ar ofalwyr di-dâl yn hanfodol er mwyn helpu i lywio'r ffordd orau o gefnogi iechyd a llesiant y rhai sy'n gofalu am eraill. Mae'r ymchwil hon yn rhoi cipolwg gwerthfawr o brofiadau gofalwyr di-dâl yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Canfu'r ymchwil fod llawer o'r heriau wedi bod yn hirsefydlog ond wedi'u gwaethygu ymhellach gan y pandemig.

“Mae dod o hyd i ffyrdd o nodi gofalwyr di-dâl mewn gwasanaethau iechyd a gofal  cymdeithasol a sefydliadau addysgol yn allweddol i ddechrau'r broses o ddarparu cymorth.  Ond mae hefyd yn bwysig ystyried yr iaith a ddefnyddir ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd, gan nad yw pob gofalwr di-dâl yn uniaethu â'r term ‘gofalwr’.

“Dylai cynllunio gofal gynnwys ystyried anghenion y gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal i dreulio amser gyda'i gilydd i gael mwynhad, yn hytrach na chanolbwyntio'n unig ar sut y caiff anghenion y person y gofalir amdano eu diwallu.

“Efallai y bydd gwaith therapiwtig tymor byr yn ddefnyddiol hefyd i gynorthwyo'r gofalwr a'r person sy'n derbyn gofal i ddeall a rheoli'r newid i berthynas ofalgar.”

Bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio cymorth ar gyfer gofalwyr di-dâl, a datblygu rhagor o ymchwil ar iechyd a llesiant gofalwyr di-dâl o fewn yr Adran Ymchwil a Gwerthuso, ochr yn ochr â phartneriaid allanol yng Nghymru.