Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad newydd yn trafod allgáu digidol ac enghreifftiau o ddulliau i atal anghydraddoldebau cynyddol

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ar y cyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chronfa'r Brenin yn trafod sut y gall diffyg mynediad, sgiliau a chymhelliant ar gyfer defnyddio technolegau digidol gyfrannu at anghydraddoldebau mewn iechyd a chanlyniadau eraill, ac mae'n trafod dulliau i leihau gwahaniaethau cynyddol rhwng grwpiau.

Mae allgáu digidol yn effeithio'n bennaf ar bobl hŷn, cymunedau gwledig a'r rhai sydd ag incwm isel yng Nghymru. Mae diffyg mynediad yn parhau i fod yn un o'r ffactorau allweddol sy'n sbardunon hyn, gyda chymaint ag un o bob 10 o oedolion yn dal heb fynediad i'r rhyngrwyd.

Meddai Dr Alisha Davies, Pennaeth Ymchwil a Gwerthuso yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae sianeli digidol yn un o'r ffyrdd y gall dinasyddion Cymru gael mynediad at wasanaethau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag iechyd.

“Pan fydd pobl wedi'u hallgáu'n ddigidol – oherwydd diffyg mynediad, sgiliau neu gymhelliant – yna mae hefyd yn effeithio ar eu cyfle i gael mynediad at y gwasanaethau a fydd yn gwella eu hiechyd hirdymor.

“Mae ein hadroddiad yn helpu i esbonio sut y gall allgáu digidol effeithio ar iechyd unigolyn a'r camau gweithredu sydd eu hangen i atal rhai grwpiau rhag cael eu gadael ar ôl.

“Nodwyd enghreifftiau rhyngwladol lle gellir cynllunio technolegau i leihau'r risg o allgáu digidol, er mwyn helpu i lywio camau gweithredu yn y dyfodol”.

Ymhlith yr argymhellion mae'r angen i ddefnyddwyr gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio gwasanaethau iechyd digidol, ac ehangu ymchwil er mwyn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r mater.

Ni chanfu'r adroddiad unrhyw dystiolaeth sy'n sefydlu'n bendant bod allgáu digidol yn arwain at anghydraddoldebau iechyd sy'n gwaethygu.

Er bod darparwyr yn cael eu hannog yn gryf i gynllunio gwasanaethau gyda defnyddwyr, ac ystyried sut y mae cymunedau lleol yn cael mynediad at ofal iechyd ac yn ei ddefnyddio ac ymgysylltu ag ef.

Argymell camau gweithredu gan gynnwys ystyried y rhwystrau sy'n weddill i ddefnyddio technolegau digidol y mae rhai grwpiau yn eu hwynebu; a chwilio am gyfleoedd newydd i wella iechyd i rai grwpiau oherwydd y ffordd y maent yn defnyddio technolegau digidol.

Am ragor o wybodaeth gweler y ddolen isod:

Adroddiad

Technoleg ddigidol ac anghydraddoldebau iechyd:adolygiad cwmpasu