Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac Adroddiad y Gweithlu 2020 - 21

Cyhoeddwyd: 6 Rhagfyr 2021


Rydym yn falch o gyhoeddi'r Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol ac Adroddiad y Gweithlu ar gyfer 2020 – 21.

Mae’r adroddiadau yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am gydraddoldeb, cyflogaeth a monitro mewn perthynas â’n gweithlu, ac mae’n manylu ar rywfaint o’r gwaith da a wnaed i wella cydraddoldeb yn ein timau. Mae llawer i’w wneud yn y maes hwn o hyd, ac rydym yn cydnabod ei bod yn hanfodol i lwyddiant parhaus ein sefydliad a'r bobl rydym yn eu gwasanaethau ein bod yn parhau i wella. 

Dywedodd Neil Lewis, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol Dros Dro:

“Mae'r adroddiadau hyn yn rhoi gwybodaeth fanwl am yr hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar draws y sefydliad ac ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.“ Mae creu amgylchedd cynhwysol lle gall pawb fod ar eu gorau a gweithio mewn partneriaeth â gwahanol sefydliadau a chymunedau yn hanfodol i'n nod o adnabod a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb.
 
Gallwn weld o'r adroddiadau ein bod yn gwneud llawer o bethau'n dda, ac rydym wedi gwneud cynnydd rhagorol dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae mwy i'w wneud o hyd i sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau i gael ei wreiddio ym mhopeth a wnawn”.

Adroddiadau

Adroddiad Cydraddoldeb Blynyddol 2020 - 21

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb y Gweithlu 2020 - 21