Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru 2019

Achosion o dwbercwlosis yn gostwng, ond mae'r clefyd yn parhau'n bryder.

Gostyngodd nifer blynyddol yr achosion o dwbercwlosis (TB) a gofnodwyd yng Nghymru i islaw 100 yn 2018. Er gwaethaf hyn, mae'r clefyd yn parhau i beri pryder. Er bod cyfanswm yr achosion wedi gostwng, cynyddodd cyfran yr achosion ymhlith y rhai a anwyd yn y DU. Mae'r achosion hyn yn aml o boblogaethau sy'n nodi lefelau uchel o ffactorau risg cymdeithasol fel digartrefedd, carchar neu ddefnyddio cyffuriau. Mae rhai canlyniadau TB hefyd wedi gwaethygu ychydig yn 2018 o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn canfod bod cyfanswm o 97 o achosion wedi'u cofnodi yng Nghymru yn 2018, gyda'r cyfraddau uchaf yn ardaloedd mwy poblog Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd. Mae hyn yn ostyngiad o'r 104 o achosion o TB a gofnodwyd y flwyddyn flaenorol. Mae cyfraddau TB yng Nghymru wedi bod yn gostwng ar y cyfan ers 2009.
Mae Lloegr yn parhau i fod â'r gyfradd uchaf o dwbercwlosis yn y DU, gydag 8.3 fesul 100,000 o'r boblogaeth, wedi'i dilyn gan yr Alban (4.9 fesul 100,000 o'r boblogaeth), Cymru (3.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth) a Gogledd Iwerddon (3.0 fesul 100,000 o'r boblogaeth). Cofnodwyd 49 y cant o'r achosion o dwbercwlosis yn y grŵp ethnig gwyn ac roedd 51 y cant yn y boblogaeth nad yw'n wyn.  Roedd tua hanner (52 y cant) o'r achosion o dwbercwlosis a gofnodwyd yng Nghymru wedi'u geni yn y DU.

Meddai Daniel Thomas, Epidemiolegydd, Canolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae'r newyddion am nifer yr achosion o TB yng Nghymru yn gostwng yn is na 100 yn 2018 yn galonogol, ond mae'n bwysig ein bod yn parhau i fod yn wyliadwrus o ran atal lledaeniad y clefyd, yn enwedig mewn achosion lle mae nifer o ffactorau risg cymdeithasol.”

Gellir gweld yr adroddiad llawn drwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Adroddiad Blynyddol Twbercwlosis yng Nghymru 2019  (Saesneg yn unig)