Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2019–20

Cyhoeddwyd: 25 Ionawr 2021
 
Rydym yn falch o gyhoeddi’r Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb ar gyfer 2019–20.
 
Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am gydraddoldeb, cyflogaeth a monitro mewn perthynas â’n gweithlu, ac mae’n manylu ar rywfaint o’r gwaith a wnaed i wella cydraddoldeb yn ein timau.
 
Mae llawer i’w wneud yn y maes hwn o hyd, ac rydym yn cydnabod bod parhau i wella yn hanfodol i lwyddiant parhaus ein sefydliad a’r bobl rydym yn eu gwasanaethu.
 
Meddai Neil Lewis, Cyfarwyddwr dros dro Pobl a Datblygu Sefydliadol:
 
“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi mewnwelediad da i’r hyn rydym yn ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled y sefydliad ac ar gyfer y rhai rydym yn eu gwasanaethu. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gweithlu a ffurfio partneriaethau â chymunedau yn hanfodol i’n nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldeb.
 
Gallwn weld, o’r adroddiad, ein bod yn gwneud llawer o bethau yn dda, ac rwyf yn falch o’r cynnydd rydym yn ei wneud. Fodd bynnag, mae llawer mwy i’w wneud o hyd i sicrhau bod cydraddoldeb yn parhau i gael ei wreiddio ym mhopeth a wnawn.”
 

Adroddiadau