Cyhoeddwyd: 19 Ionawr 2023
Mae adolygiad cwmpasu o dystiolaeth y DU ac yn rhyngwladol gan y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ceisio nodi pa grwpiau poblogaeth sy'n profi anghydraddoldebau ac yn wynebu rhwystrau o ran cael mynediad at ofal iechyd.
Nododd yr adolygiad cwmpasu anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd ar draws saith nodwedd poblogaeth. Y rhain oedd oedran, lefel addysg, ethnigrwydd neu statws mewnfudo, rhywedd, risgiau meddygol a ffordd o fyw, natur wledig ac amddifadedd cymdeithasol; a statws economaidd-gymdeithasol.
Canfu'r adolygiad cwmpasu hefyd fod cyfeiriad yr anghydraddoldebau'n amrywio yn ôl y math o wasanaeth gofal iechyd neu leoliad sy'n cael ei ddefnyddio. Er enghraifft, o gymharu â grwpiau oedran iau, roedd y dystiolaeth a nodwyd yn awgrymu bod pobl dros 65 oed yn fwy tebygol o gael mynediad at rai gwasanaethau iechyd fel Gwiriad Iechyd y GIG, ond yn llai tebygol o ddefnyddio rhai gwasanaethau arbenigol fel gofal cardiofasgwlaidd a gofal diabetes.
Cafodd sawl rhwystr sy'n cyfrannu at anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau gofal iechyd eu nodi hefyd. Nodwyd y rhain yn bennaf ymhlith poblogaethau o leiafrifoedd ethnig, poblogaethau mudol, ac oedolion hŷn; ac yn bennaf roedd yn cynnwys ffactorau'n gysylltiedig â hygyrchedd a fforddiadwyedd y gwasanaethau gofal iechyd.
Ymhlith y ffactorau a oedd yn effeithio ar hygyrchedd y gwasanaethau gofal iechyd oedd diffyg dealltwriaeth o wasanaethau gofal iechyd lleol a hawl; diffyg gwasanaethau sy'n briodol yn ddiwylliannol; allgáu digidol; a diffyg hygyrchedd daearyddol.
Roedd y rhwystrau ariannol uniongyrchol ac anuniongyrchol yn ymwneud â fforddiadwyedd gwasanaeth gofal iechyd a nodwyd yn cynnwys amser a chost teithio, y gofyniad i gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith, dod o hyd i ddarpariaeth gofal iechyd, neu flaenoriaethau sy'n cystadlu â'i gilydd fel ymrwymiadau teuluol.
Yn ogystal, nodwyd sawl rhwystr sy'n benodol i ddarparwyr gofal iechyd a gyfrannodd at anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau gofal iechyd penodol gan wahanol nodweddion poblogaeth. Mae'r rhain yn cynnwys diffyg dealltwriaeth ddiwylliannol a nodwyd gan gymunedau Sipsiwn, Roma a theithwyr a phoblogaethau mudol; diffyg dyrannu adnoddau a nodwyd gan grwpiau lleiafrifoedd ethnig a phoblogaethau mudol; gwrthod gwasanaeth a nodwyd gan fenywod lleiafrifoedd rhywiol; yn ogystal â diffyg dealltwriaeth a gwybodaeth yn ymwneud â rhywedd a phobl ifanc sydd â rhywioldeb amrywiol a nodwyd gan bobl ifanc ar y cyrion.
Meddai Amy Hookway, Prif Ddadansoddwr Tystiolaeth a Gwybodaeth ar gyfer y Gwasanaeth Tystiolaeth yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
“Y briff ar gyfer yr adroddiad hwn oedd cynnal chwiliad cwmpasu eang ar gyfer adolygiadau a gynhyrchwyd gan ddefnyddio methodoleg symptomatig i nodi nodweddion y boblogaeth a oedd yn llai tebygol o gael mynediad at wasanaethau iechyd.
“Mae'r adolygiad cwmpasu wedi gallu rhoi trosolwg o'r darlun cymhleth o ran pa grwpiau sy'n profi anghydraddoldebau mynediad at ofal iechyd ar draws gwahanol wasanaethau.
“Mae'r adolygiad yn rhoi llinell sylfaen i wneuthurwyr polisi ar gyfer datblygu rhagor o ymchwil, gan gynnwys yr hyn sy'n benodol i grwpiau yng Nghymru.”