Neidio i'r prif gynnwy

Adnodd Newydd i helpu i greu amgylcheddau iachach a mynd i'r afael â gordewdra yng Nghymru

Cyhoeddwyd: 1 Gorffennaf 2021

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi cyfres o ddogfennau a fydd yn helpu i lywio a galluogi amgylcheddau iachach yn y dyfodol gan gynnwys strategaethau i helpu i atal y cynnydd mewn gordewdra yng Nghymru.

Meddai Liz Green, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Cafodd y gwaith hwn ei lunio'n wreiddiol fel offeryn ar gyfer mynd i'r afael â lefelau cynyddol o ordewdra ledled Cymru, drwy gynllunio'r amgylcheddau y mae pobl yn byw ac yn gweithio ynddynt yn y dyfodol. Gyda data'n awgrymu bod 58 y cant o oedolion yng Nghymru dros bwysau neu'n ordew, ni fu'r angen i greu amgylcheddau sy'n galluogi ac yn annog pwysau iach erioed yn bwysicach. 

“Mae pandemig COVID-19, a'r risg uwch o afiachusrwydd a marwolaethau ar gyfer y rhai a ystyrir yn ordew, yn alwad frys arall i lunio amgylcheddau a lleoedd sy'n hybu iechyd ac nad ydynt yn ychwanegu ymhellach at yr her gordewdra. 

“Er enghraifft, mae cynyddu nifer y mannau gwyrdd a glas a'r mynediad iddynt, blaenoriaethu teithio llesol dros ddefnyddio'r car a chreu adeiladau sydd â digon o le mewnol i storio beiciau a chyfleusterau cegin, ymhlith rhai o'r ffactorau yn unig y gellir eu hychwanegu yn ystod y cam cynllunio, sy'n annog ymddygiad iachach ac felly pwysau iachach.  

“Mae'r ddogfen hon yn cydnabod bod mynd i'r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd sy'n effeithio ar bwysau iach yn cynnwys ystyried sut i greu amgylcheddau iachach yn gymaint â mynd i'r afael ag ymddygiad iechyd ar ei ben ei hun. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y dull deuol hwn yn atal y duedd ordewdra yng Nghymru ac yn darparu bywydau iachach ar gyfer cenhedlaeth y dyfodol.” 

Mae ‘Cynllunio a Galluogi Amgylcheddau Iach’ yn gyfres o ddogfennau sydd wedi'u datblygu gan arbenigwyr iechyd i gynorthwyo swyddogion polisi cynllunio a rheoli datblygu awdurdodau lleol, ymarferwyr tîm iechyd cyhoeddus cenedlaethol a lleol, cynrychiolwyr iechyd amgylcheddol, eiriolwyr cenedlaethol a llunwyr polisi ar gyfer cynllunio ac iechyd, a datblygwyr yng Nghymru i gyfrannu at greu amgylcheddau iach, gan gynnwys pwysau iach.  

Mae'n rhoi cyd-destun a gwybodaeth am y rhwystrau presennol i greu amgylcheddau iach, polisi cynllunio perthnasol a dulliau gwahanol ar gyfer cyflawni'r amgylcheddau hyn yn genedlaethol ac yn lleol, a chyfres o astudiaethau achos sy'n defnyddio enghreifftiau o Gymru a'r Deyrnas Unedig (DU) ac awdurdodau lleol (ALl) sydd eisoes wedi defnyddio camau arloesol ac ymarferol i oresgyn yr heriau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu o ran cynnal ffyrdd iach o fyw. 

Mae'r adnodd yn darparu templed ymarferol ar gyfer Canllawiau Cynllunio Atodol (SPG) ar gyfer Amgylcheddau Pwysau Iach, gan ddarparu'r cyd-destun a'r wybodaeth i gyfrannu at bolisïau defnydd tir lleol a Chynlluniau Datblygu Lleol a'u cefnogi. 

Mae ar gyfer y rhai sy'n dymuno defnyddio'r system gynllunio i weithio tuag at greu amgylcheddau sy'n cyflawni nodau cynllunio ac iechyd cyhoeddus i fynd i'r afael â gordewdra, deiet, gweithgarwch corfforol, cydlyniant cymdeithasol a llesiant meddyliol. 

Dyma'r chwe elfen i gynllunio amgylcheddau pwysau iach:  

  1. Symud a mynediad 
  2. Mannau agored, chwarae a hamdden 
  3. Bwyd iach  
  4. Mannau cymdogaeth a seilwaith cymdeithasol 
  5. Adeiladau, a'r 
  6. Economi leol. 

Gellir dod o hyd i'r adnodd llawn yma: