Neidio i'r prif gynnwy

Achosion ychwanegol o TB yn gysylltiedig â CEM y Parc

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi dau achos ychwanegol o TB wedi'u cadarnhau sy'n gysylltiedig â'r clwstwr o achosion yng CEM y Parc, Pen-y-bont ar Ogwr.  

Mae hyn yn dod â chyfanswm nifer yr achosion yr ymchwilir iddynt sydd wedi bod yn preswylio yn CEM y Parc i chwech.  Nid yw tri o'r rhain yn y carchar bellach.  Mae'r dynion sydd wedi cael diagnosis o TB wedi ymateb yn dda i'r driniaeth, ac nid ydynt yn peri unrhyw risg barhaus i iechyd y cyhoedd. 

Mae TB yn anodd ei ddal, ac mae angen cysylltiad agos a hirfaith ag unigolyn heintus, er mwyn i berson gael ei heintio.  Gellir trin yr haint â gwrthfiotigau ac mae'n bosibl ei wella'n llwyr yn y rhan fwyaf o achosion.  

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, CEM y Parc a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi i gynnal sgrinio yn y carchar, ac fel rhan o ymateb arferol i sefyllfa o'r natur hon mae'r digwyddiad wedi'i ddosbarthu fel achos o'r clefyd.  

Bydd yr ymchwiliadau'n parhau a rhoddir cyngor neu sgrinio ychwanegol os bydd ei angen.

Dywedodd Dr Gwen Lowe, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru: 

“Fel rhan o’n hymchwiliadau, rydym wedi nodi dau achos ychwanegol o TB sy'n gysylltiedig â'r clwstwr yn CEM y Parc.  Rydym wedi diwygio'r statws ymateb yn unol â hynny, ond rydym yn rhoi sicrwydd i staff a charcharorion bod hwn yn gam arferol yn ein hymateb i ddigwyddiadau o'r natur hon. 

“Mae TB yn anodd ei ddal.  Mae angen cysylltiad agos, hirfaith â rhywun sy'n heintus er mwyn i rywun gael ei heintio.  Gellir trin yr haint â gwrthfiotigau ac mae'n bosibl ei wella'n llwyr yn y rhan fwyaf o achosion.”


Mae TB yn haint sy'n effeithio ar yr ysgyfaint fel arfer, ond gellir effeithio ar unrhyw ran o'r corff. Gall unrhyw un ddal TB drwy anadlu'r bacteria mewn defnynnau bach iawn sy'n cael eu tisian neu eu pesychu gan rywun â TB yn ei ysgyfaint. Ond bydd angen cysylltiad estynedig ac agos er mwyn i hyn ddigwydd. 

Ymhlith oedolion, peswch parhaus yw symptom mwyaf cyffredin TB.  Gall symptomau eraill gynnwys colli pwysau, tymheredd uchel, a chwysu, yn enwedig yn ystod y nos. 

Dylai unrhyw un sy'n pryderu am ei iechyd siarad â'i feddyg teulu neu ffonio Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.

Ceir rhagor o wybodaeth am dwbercwlosis o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn:http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/888/tudalen/44203