Neidio i'r prif gynnwy

Achosion o Giardia yn ardal Bae Colwyn

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymchwilio i nifer o achosion cysylltiedig o Giardia yn ardal Bae Colwyn.

Mae Giardia yn baraseit sy'n gallu heintio'r llwybr gastroberfeddol. Mae'n achosi dolur rhydd yn aml, ond gall hefyd achosi gwynt, crampiau stumog, chwyddo yn yr abdomen, cyfog a cholli archwaeth.

Meddai Dr Graham Brown, Ymgynghorydd Rheoli Clefydau Trosglwyddadwy ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Rydym yn cynghori unrhyw un yn ardal Bae Colwyn sydd â symptomau i gysylltu â'u meddyg teulu.  Dylai unrhyw un sydd â dolur rhydd neu salwch chwydu aros i ffwrdd o'r ysgol, y feithrinfa neu'r gwaith am o leiaf 48 awr ar ôl i'w symptomau ddod i ben.

“Gall Giardia gael ei ledaenu o berson i berson os na fydd hylendid caeth ac felly cynghorwn fod pobl yn golchi eu dwylo ar ôl mynd i'r toiled a chyn paratoi bwyd, gan ddefnyddio eu sebon ar wahân eu hunain a thywel sy'n cael ei olchi ar dymheredd uchel yn y peiriant golchi wedyn.”

Ceir rhagor o wybodaeth am Giardia ar wefan Galw Iechyd Cymru.