Neidio i'r prif gynnwy

A allwch ein helpu i adrodd ein stori'n well?

Roeddem yn meddwl tybed a allech neilltuo peth amser a chymryd rhan mewn arolwg a fydd yn ein helpu i adrodd ein gwybodaeth bwysig yn well, a helpu i adeiladu Cymru iachach? 

Mae Mace & Menter, yr arbenigwyr dylunio ar-lein ac ymchwil defnyddwyr, yn gweithio gyda ni i gael gwybod eich barn ynghylch pa wybodaeth sydd ei hangen arnoch gennym a'r hyn y gallwn ei wneud i'ch helpu i gael y profiad gorau o'n cyfathrebiadau ar-lein.  

Bydd cymryd rhan yn yr arolwg yn ein helpu i ddefnyddio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu negeseuon iechyd cyhoeddus hanfodol yng Nghymru yn fwy effeithiol. 

Bydd Mace & Menter yn gwahodd pobl i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Iechyd Cyhoeddus Cymru.  

Bydd yr holl ymatebion i'r arolwg yn cael eu casglu drwy Survey Monkey gan Mace & Menter. Ni fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael data cyfranogwyr, byddant yn cael eu cadw gan Mace & Menter a’u trin yn hollol gyfrinachol.  

Cewch ragor o wybodaeth am yr hyn y mae Mace & Menter yn ei wneud gyda’r wybodaeth y maent yn ei chasglu drwy ei hysbysiad preifatrwydd (yn agor tab newydd). Ochr yn ochr â'r arolwg, gall Mace & Menter gysylltu â chyfranogwyr yr arolwg dros y ffôn neu drwy neges e-bost i'w gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliadau dilynol.