Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r asiantaeth iechyd cyhoeddus genedlaethol yng Nghymru. Ni'n bodoli i ddiogelu a gwella iechyd a lles a lleihau anghydraddoldebau iechyd i bobl yng Nghymru.
Rydym yn rhan o Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru ac yn adrodd i Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Amlinella ein Strategaeth Hirdymor Gweithio i Wireddu Dyfodol Iachach i Gymru saith blaenoriaeth strategol hyd 2030.
Blaenoriaeth pump, diogelu'r cyhoedd rhag haint a bygythiadau amgylcheddol i iechyd, yn gosod allan yr ymagwedd a'r buddsoddiad hirdymor yn natblygiad y Gwasanaeth Heintiau Cenedlaethol.
Mae'r gwasanaeth mewn cyfnod cyffrous o ddatblygiad, gyda buddsoddiad ychwanegol ar gyfer 54 o swyddi newydd ar draws y rhwydwaith cenedlaethol.