Cafodd ein gwerthoedd eu datblygu gan ein staff; gan eu bod mor greiddiol i hunaniaeth sefydliad, ni allai un neu ddau o bobl mewn ystafell gyfarfod feddwl am y rhain!
Yn 2016, gwahoddwyd yr holl gydweithwyr i gymryd rhan mewn trafodaethau a gweithdai wedi’u hwyluso, gan ganolbwyntio ar sut rydym yn gweld ein hunain pan rydym ar ein gorau – rhywbeth y dylem anelu ato bob amser ac a ddylai fod yn 'ddiofyn' gennym.
Daeth themâu cyffredin yn glir iawn yn fuan iawn a gyda chyfraniad terfynol gan ein Bwrdd, cytunwyd arnynt.
Rydym yn parhau i ymgorffori ein gwerthoedd ar draws ein prosesau a’n gweithdrefnau yn ogystal â'u gwireddu ar gyfer pob cydweithiwr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’n daith yr ydym yn cychwyn arni, ond credwn yn gryf y bydd cydnabod y gwaith gwych y mae ein staff yn ei wneud yn sicrhau ein bod ni, fel sefydliad, yn parhau i Weithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru.