Neidio i'r prif gynnwy

Rhagnodi Cymdeithasol

Mae presgripsiwn cymdeithasol yn derm ymbarél i ddisgrifio dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o gysylltu pobl ag asedau cymunedol lleol. Gall helpu i rymuso unigolion i adnabod eu hanghenion, cryfderau ac asedau personol eu hunain ac i gysylltu â'u cymunedau eu hunain i gael cymorth gyda'u hiechyd a'u llesiant personol.

Ffigur: Llwybr Presgripsiwn Cymdeithasol

Mae’r cysyniad o bresgripsiwn cymdeithasol wedi cael cryn sylw gwleidyddol a chefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru. Mae Strategaeth Cymunedau Cysylltiedig 2020 yn nodi’r bwriad i gynorthwyo â datblygiad cynlluniau presgripsiwn cymdeithasol ledled Cymru. Roedd datblygiad Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol yn un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer 2021-2026.

Yr Hyb Gofal Sylfaenol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

  • Mae’n arwain y gwaith o gydlynu’r pedwar prif beth y gellir ei gyflawni ym maes presgripsiwn cymdeithasol, a nodir yn y Strategaeth Cymunedau Cysylltiedig, gan alinio’r rhain â’r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol 
  • Mae’n hefyd yn cefnogi datblygiad a gweithrediad y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiwn Cymdeithasol

Adroddiadau